Mae Ethan Kwame Colm Raymond Ampadu (ganed 14 Medi 2000) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru sy'n chwarae hefyd i glwb Chelsea.
Mae'n chwarae gan amlaf mewn safle canol cae amddiffynnol, ond gall hefyd chwarae fel amddiffynnwr canol.
Ethan Ampadu | |
---|---|
Ganwyd | Ethan Kwame Colm Raymond Ampadu 14 Medi 2000 Caerwysg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 182 centimetr |
Pwysau | 78 cilogram |
Tad | Kwame Ampadu |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Exeter City F.C., Chelsea F.C., RB Leipzig, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 17 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 19 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Sheffield United F.C., Venezia F.C., Spezia Calcio, Leeds United A.F.C. |
Safle | amddiffynnwr, canolwr |
Gwlad chwaraeon | Lloegr, Cymru |
Mae'n fab i'r cyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol Kwame Ampadu. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 2017.
Yn enedigol o Gaerwysg, Dyfnaint, roedd Ampadu yn perthyn i academi ieuenctid Dinas Caerwysg. Ar 9 Awst 2016, pan oedd yn 15 blwydd 10 mis a 26 diwrnod, chwaraeodd gyntaf yn rownd agoriadol cystadleuaeth Cwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Brentford ym Mharc St James, gan chwarae 120 munud llawn yn y fuddugoliaeth o 1–0. Cafodd ei enwi'n seren y gem, ac ef oedd chwaraewr ieuengaf y clwb erioed, yn torri record Cliff Bastin a oedd wedi sefyll ers 87 o flynyddoedd. Wythnos yn ddiweddarach, chwaraeodd ei gem gynghrair gyntaf, pan drechwyd Caerwysg adref o 1-0 yn erbyn Tref Crawley yng Ail Adran Cyngrair Bel-droed Lloegr.
Ar 1 Gorffennaf 2017, arwyddodd Ampadu gytundeb gyda Chelsea, clwb yn Uwch-Gynghrair Lloegr.
Ar 20 Medi, chwaraeodd Ampadu ei gem gyntaf i Chelsea mewn gem drydedd rownd yng Nghwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Nottingham Forest, gan ddod ymlaen ar ôl 55 munud yn lle Cesc Fàbregas. Gyda hynny, daeth Ampadu yn y cyntaf a oedd wedi'i eni yn y 2000au i chwarae i Chelsea. Yn 17 blwydd a 6 diwrnod, ef hefyd oedd yr ieuengaf i chwarae i'r clwb er dros ddegawd. Ar 12 Rhagfyr, chwaraeodd ei gem gyntaf i Chelsea yn yr Uwch-Gynghrair, pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Huddersfield Town ar ôl 80 munud.
Mae Ampadu yn chwarae pêl-droed rhyngwladol i dim cenedlaethol Cymru. Gallai hefyd fod wedi chwarae i Loegr, Gweriniaeth Iwerddon neu Ghana.
Ar 26 Mai 2017, pan oedd yn 16 oed, cafodd Ampadu ei alw i garfan Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer gem ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018, a hynny yn erbyn Serbia. Cafodd ei alw eto ar 1 Tachwedd ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Panama, a chwaraeodd am y tro cyntaf ar 10 Tachwedd yn Stade de France, pan ddaeth i'r cae fel eilydd i Joe Ledley ar ôl 63 o funudau. Enillodd y Ffrancwyr o 2–0.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ethan Ampadu, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.