Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 ar 1 - 8 Awst 2015 ger Meifod, Powys.
Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi yn Y Drenewydd ar 5 Gorffennaf 2014.
← Blaenorol | Nesaf → | |||
Eisteddfod Maldwyn 2015 | ||||
- | ||||
Lleoliad | Fferm Mathrafal, Meifod | |||
Cynhaliwyd | 1-8 Awst 2015 | |||
Archdderwydd | Christine James | |||
Daliwr y cleddyf | Robin McBryde | |||
Cadeirydd | Beryl Vaughan | |||
Llywydd | R. Alun Evans | |||
Nifer yr ymwelwyr | 150,776 | |||
Enillydd y Goron | Manon Rhys | |||
Enillydd y Gadair | Hywel Griffiths | |||
Gwobr Daniel Owen | Mari Lisa | |||
Gwobr Goffa David Ellis | Ffion Hâf, Llandeilo | |||
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn | Joy Parry | |||
Gwobr Goffa Osborne Roberts | Robert Lewis | |||
Gwobr Richard Burton | Morgan Elwy Williams | |||
Y Fedal Ryddiaith | Tony Bianchi | |||
Medal T.H. Parry-Williams | Jennifer Maloney | |||
Y Fedal Ddrama | Wyn Mason | |||
Tlws Dysgwr y Flwyddyn | Gari Bevan | |||
Tlws y Cerddor | Osian Huw Williams | |||
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts | Meinir Wyn Roberts | |||
Medal Aur am Gelfyddyd Gain | Glyn Baines | |||
Medal Aur am Grefft a Dylunio | Rhian Hâf | |||
Gwobr Ivor Davies | Aled Rhys Davies, Christine Mills, Seán Vicary | |||
Gwobr Dewis y Bobl | Menna Angharad | |||
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc | Gwenllian Spink | |||
Medal Aur mewn Pensaernïaeth | Penseiri Loyn & Co. | |||
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth | Jonathan Evans | |||
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg | Mel Williams | |||
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Llywydd yr Ŵyl oedd R. Alun Evans o Gaerdydd, gweinidog a darlledwr a weithiodd gyda'r BBC am dros 30 mlynedd.
Yn y seremoni derbyn aelodau newydd i'r Orsedd fore Llun, fe alwodd yr Archdderwydd Christine James ar Gymru i "ddeffro" ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros "warchod ein gwlad" wedi i Gymru golli cynifer o gewri yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyfeiriodd at farwolaethau pobl amlwg gan gynnwys John Davies, Meredydd Evans, R. Geraint Gruffydd, Harri Pritchard Jones, Osi Osmond a John Rowlands a dywedodd fod "bwlch anferth" ar eu holau, sydd angen ei lenwi.
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Mari Lisa gyda chyfrol o'r enw Veritas.
Dyfarnwyd y Fedal Ryddiaith i Tony Bianchi ('Mab Afradlon') am nofel ar y thema 'Dwy' neu 'Dau'. Teitl y gyfrol fuddugol oedd Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands
Ymysg y rhai gafodd eu derbyn i Orsedd y Beirdd drwy anrhydedd oedd y cyflwynydd teledu, Alex Jones, llywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin, y gantores werin Siân James a'r cerddor a chynhyrchydd, Endaf Emlyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.