Canwr, cyfansoddwr a chyfarwyddwr ffilm yw Endaf Emlyn Jones (ganwyd 31 Gorffennaf 1944).
Roedd yn aelod o'r grwpiau Injaroc a Jîp.
Endaf Emlyn | |
---|---|
Ganwyd | 31 Gorffennaf 1944 Bangor |
Man preswyl | Pwllheli, Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr, cerddor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Gaucho |
Ganwyd Emlyn ym Mangor a'i magwyd ym Mhwllheli. Yn ei arddegau bu'n aelod o gerddorfa ieuenctid Cymru ar yr un pryd a Karl Jenkins a John Cale, gan chwarae'r ffidil. Fe'i hyfforddwyd fel athro ond daeth yn adnabyddus ar ddiwedd y 1960au fel cyhoeddwr teledu gyda HTV Cymru.
Bu'n cyfansoddi ers y 1960au ac ymunodd â chwmni cyhoeddi Tony Hatch, M&M Music. Ym 1967/8 cyhoeddwyd ei record gyntaf, Paper Chains ar label Parlophone, yr un label â'r Beatles ar y pryd. Dewiswyd y gân yn record yr wythnos gan Tony Blackburn ar BBC Radio 1. Ar ail ochr y record sengl oedd Madryn a gafodd ei recordio yn stiwdio'r Beatles yn Abbey Road. Cyhoeddodd ddwy record sengl arall ar Parlophone, All My Life / Cherry Hill, a Starshine / Where were You?.
Rhyddhawyd ei albwm gyntaf, Hiraeth yn 1973, albwm oedd yn cyfuno dehongliadau o hen alawon gwerin a chaneuon gwreiddiol telynegol eu naws.
Y grŵp cyntaf iddo fod yn aelod ohono oedd Yr Eiddoch Yn Gywir gyda Hywel Gwynfryn a Derek Boote. Aeth ymlaen i fod yn aelod o'r swper grŵp Injaroc yn 1977 a'r grŵp Jîp.
Yn 1974 cyfansoddodd gerddoriaeth agoriadol opera sebon Gymraeg y BBC, Pobol y Cwm, ac mae'r thema wedi ei ddefnyddio mewn sawl fersiwn ers hynny.
Cychwynnodd ei yrfa deledu fel sgriptiwr â chyhoeddwr gyda BBC Cymru ac yna fel cyhoeddwr gyda HTV Cymru yn 1968, Yn 1972 aeth i weithio tu ôl y llenni, fel rheolwr llawr. Yn ddiweddarach, roedd yn gyfarwyddwr/gynhyrchydd y rhaglen gerddoriaeth Sêr ar HTV Cymru ar ddiwedd y 1970au. Yn 1982 cyfarwyddodd y rhaglen ddogfen Shampŵ, a enillodd wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd.
Daeth yn gyfarwyddwr ffilmiau llwyddiannus ac arobryn yn cychwyn gyda'r ffilm Gaucho yn 1984. Sefydlodd gwmni ffilm a theledu Gaucho oedd yn weithgar iawn yn y 1990au.
Yn Mai 2017 derbyniodd Wobr John Hefin am Gyfraniad Oes - cyflwynyd y wobr iddo yng ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Endaf Emlyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.