Douglas (Manaweg: Doolish) yw prifddinas Ynys Manaw a'i dref fwyaf gyda phoblogaeth o 27,938 (2011), traean o boblogaeth yr ynys.
Douglas yw prif ganolfan yr ynys am fasnach, cludiant, siopa ac adloniant. Yno hefyd y lleolir llywodraeth Ynys Manaw a'r rhan fwyaf o sesiynau'r Tynwald.
Math | dinas, dosbarth ar Ynys Manaw |
---|---|
Poblogaeth | 27,938 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Ballymoney |
Daearyddiaeth | |
Sir | Middle |
Gwlad | |
Cyfesurynnau | 54.15°N 4.4775°W |
Cod OS | SC379750 |
Cod post | IM1 / IM2 |
Lleolir Douglas ar ochr ddwyreiniol yr ynys ger aber Afon Dhoo ac Afon Glass, gan roi iddi ei henw. Mae'r afonydd unedig yn llifo i Fae Douglas ar ôl llifo trwy'r dref. Gorwedd bryniau isel i'r gogledd-orllewin a'r de-ddwyrain gyda dyffryn rhyngddynt.
Amgylchynir y dref gan sawl tref a phentref llai, yn enwedig Onchan i'r gogledd (sydd fel estyniad o Douglas erbyn heddiw) ac Union Mills i'r gorllewin.
Mae Douglas yn enwog fel canolfan rasys beic modur y TT.
Cysylltir Douglas gan wasanaethau fferi â Lerpwl a Dulyn. Ar un adeg bu gwasanaeth fferi tymhorol yn rhedeg rhwng Douglas a Llandudno, gogledd Cymru, ond ers rhai blynyddoedd mae wedi darfod fel gwasanaeth rheolaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Douglas (Ynys Manaw), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.