Gwlad neu drefedigaeth hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig oedd dominiwn.
Ymddangosodd statws arbennig y tiriogaethau hyn drwy broses yn hanner cyntaf yr 20g. Erbyn y 1930au, roedd statws dominiwn gan Awstralia, Canada, De Affrica, Iwerddon Rydd, Newfoundland, a Seland Newydd. Roedd y rhain i gyd, ac eithrio Newfoundland, yn aelodau Cynghrair y Cenhedloedd.
Nid oedd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (1922–37) yn fodlon â'i statws dominiwn, a chafodd y cyfansoddiad ei adolygu ym 1936 i ddileu'r holl gyfeiriadau at y teyrn Prydeinig. Roedd union statws Iwerddon Rydd rhywfaint yn ansicr nes 1949, pan ddaeth yn Weriniaeth Iwerddon. Collodd Newfoundland ei statws dominiwn ym 1934 oherwydd problemau ariannol, a bu statws y diriogaeth honno yn ansicr nes iddi ymuno â Chanada ym 1949. Yn yr un flwyddyn, cytunodd pob un arall o'r dominiynau a'r Deyrnas Unedig i ymwrthod â'r enw.
O 1925 i 1947, Swyddfa'r Dominiynau oedd yn gyfrifol am gysylltiadau rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r dominiynau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dominiwn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.