Tywysog Mawr Moscow o 1359 hyd 1389 a Thywysog Mawr Vladimir o 1359 hyd 1389 oedd Dmitry Ivanovich Donskoy (Rwsieg Дмитрий Иванович Донской) (12 Hydref 1350 - 19 Mai 1389).
Ei lysenw oedd Donskoy: daw o'i fuddugoliaeth adnabyddus dros y Mongoliaid ym Mrwydr Kulikovo Pole ger Afon Don yn ne Rwsia.
Dmitry Donskoy | |
---|---|
Ganwyd | 12 Hydref 1350 Moscfa |
Bu farw | 19 Mai 1389 Moscfa |
Dinasyddiaeth | Uchel Ddugiaeth Moscfa |
Galwedigaeth | gwladweinydd |
Swydd | Prince of Moscow, Grand Duke of Vladimir |
Dydd gŵyl | 19 Mai |
Tad | Ivan II of Moscow |
Mam | Alexandra Velyaminova |
Priod | Eudoxia of Moscow |
Plant | Vasily I of Moscow, Yury of Zvenigorod, Andrew of Mozhaysk, Peter of Dmitrov, Konstantin of Uglich, Anna Dmitrievna of Moscow, Mariya Dmitriyevna Moskovskaya, Sofya Dmitriyevna, Anastasia Dmitrievna, Ivan Dmitrievich |
Llinach | Rurik dynasty |
Yn ystod ei deyrnasiad, llwyddodd Dmitry i ehangu goruchafiaeth Tywysogaeth Moscow dros y tywysogaethau Rwsiaidd eraill. Roedd ei fuddugoliaeth dros y Mongoliaid ar faes Kulikovo Pole yn drobwynt yn hanes Rwsia. Am y tro cyntaf, roedd lluoedd un o'r tywysogaethau Rwsiaidd wedi trechu'r Mongoliaid. O hyn ymlaen, roedd grym y Mongoliaid yn Rwsia ar drai tan iddynt gael eu diarddel o'r wlad yn llwyr yn 1480.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dmitry Donskoy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.