Ar 7 Hydref 2023 tarwyd Talaith Herat, yng ngorllewin Affganistan, gan ddwy ddaeargryn ar raddfa 6.3.
Cofnodwyd y ddaeargryn gyntaf am 11:11 amser lleol (AFT), a theimlwyd yr ail gryniad 31 o funudau'n ddiweddarach. Lladdwyd dros 1000 o bobl, ac anafwyd 2000 arall. Teimlwyd rhyw saith o ôl-gryniadau yn yr ardal dros y pump awr wedi'r daeargrynfeydd. Digwyddodd dwy ddaeargryn arall, o'r un maint, ar 11 Hydref ac 15 Hydref, gan achosi saith marwolaeth a rhyw 300 o anafiadau ychwanegol.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres o ddaeargrynfeydd |
---|---|
Dyddiad | 7 Hydref 2023 |
Lladdwyd | Unknown |
Lleoliad | Herat |
Gwladwriaeth | Affganistan |
Rhanbarth | Herat |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleolwyd yr uwchganolbwynt 30 km i ogledd-orllewin dinas Herat, gan daro felly rhanbarth anial llawn pentrefi tlawd, anghysbell. Adeiladwyd tai'r werin gyda briciau pridd, a ddadfeiliodd yn hawdd. Cafodd rhywfaint o ysgwyd ei deimlo ar draws gorllewin y dalaith, ac hefyd mewn ambell man dros y ffin i'r gorllewin ag Iran a'r ffin i'r gogledd â Thyrcmenistan.
Yn ôl llefarydd o lywodraeth Affganistan, difethwyd 12 pentref yn ardal Zindah Jan a chwe phentref yn ardal Ghoryan yn llwyr. Daeth timau achub o daleithiau Helmand a Kandahar i gynorthwyo yn Herat, a chludwyd nifer o'r anafedigion i ddinas Herat am driniaeth. Codwyd ysbyty dros dro yn y prynhawn ar ddiwrnod y daeargrynfeydd, wedi i Ysbyty Rhanbarthol Herat orlenwi â chleifion, ac agorwyd gwesty ac ysgolion i lochesu'r rhai a ddadleolwyd. Treuliodd miloedd o drigolion Herat a'r cyrion y noson yn yr awyr aored, yn y strydoedd a'r parciau, rhag ofn y byddai cryniadau eraill i ddilyn.
Ymbiliodd y llywodraeth ar grwpiau dyngarol a'r byd Mwslimaidd am gymorth, a darparwyd adnoddau gan Gymdeithas Groes Goch Affganistan, MSF, Rhaglen Bwyd y Byd, a UNICEF. Fodd bynnag, mae nifer o wledydd yn gwrthod cydweithio â'r Taliban wedi i'r rheiny ailgipio grym yn 2021, a phitw a fu'r ymateb rhyngwladol hyd yn hyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Daeargrynfeydd Herat, 2023, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.