Talaith Iranaidd Cyrdistan

Un o 30 talaith Iran sy'n gorwedd yn nhiriogaeth draddodiadol Cyrdistan, gwlad y Cyrdiaid, yw Talaith Cyrdistan neu Kordestan (Perseg: استان کردستان, Ostâne Kordestân; Cyrdeg: پارێزگه ی کوردستان, Parêzgeha Kurdistanê).

Mae'n rhan o'r Cyrdistan Iranaidd hefyd, sy'n diriogaeth fwy sylweddol. Mae gan dalaith Cyrdistan arwynebedd o 28,817 km², sy'n cyftateb i tua wythfed ran yn unig o'r Cyrdistan Iranaidd ei hun. Fe'i lleolir yng ngorllewin Iran ac mae'n ffinio ar Irac i'r gorllewin, talaith Gorllewin Azerbaijan i'r gogledd, Zanjan i'r gogledd-ddwyrain a Kermanshah i'r de. Prifddinas y dalaith yw Sanandaj (Cyrdeg: Sinne). Fe'i rhennir yn siroedd a enwir ar ôl eu prif ddinasoedd neu drefi, sef Marivan, Baneh, Saqqez, Sarvabaad, Qorveh, Bijar, Kamyaran a Diwandarreh.

Cyrdistan
Talaith Iranaidd Cyrdistan
MathTaleithiau Iran Edit this on Wikidata
PrifddinasSanandaj Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,603,011, 1,493,645, 1,440,156 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIran Edit this on Wikidata
GwladBaner Iran Iran
Arwynebedd29,137 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSulaymaniyah Governorate, West Azerbaijan Province, Talaith Hamadan Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.7278°N 46.9669°E Edit this on Wikidata
IR-12 Edit this on Wikidata
Canran y diwaith11.6 canran Edit this on Wikidata
Talaith Iranaidd Cyrdistan
Talaith Iranaidd Cyrdistan
Lleoliad talaith Cyrdistan yn Iran

Daearyddiaeth a demograffeg

Mae'n dalaith werdd gyda nifer o goedwigoedd a mynyddoedd. Y copaon uchaf yw mynyddoedd Charkhaln (3,330 m), Chehelcheshmeh (3,173 m), Hossein Bak (3,091 m) a Masjede Mirza (3,059 m). Y llyn mwyaf yw Llyn Zarivar.

Yn 1996 roedd gan y dalaith boblogaeth o 1,346,383 gyda 52.42% ohonynt yn byw mewn trefi a 47.58% yng nghefn gwlad. Cyrdiaid yw mwyafrif helaeth y boblogaeth. Maent yn siarad Cyrdeg Sorani. Enw hanesyddol yr ardal yw Ardalan.

Prif drefi a dinasoedd

  • Sanandaj
  • Saqez
  • Marivan
  • Kamiaran
  • Baneh
  • Divandarreh
  • Qorveh
  • Bijar
  • Sarvabad
Taleithiau Iran Talaith Iranaidd Cyrdistan 
Alborz | Ardabil | Bushehr | Chaharmahal a Bakhtiari | De Khorasan | Dwyrain Azarbaijan | Fārs | Gīlān | Golestān | Gogledd Khorasan | Gorllewin Azarbaijan | Hamadān | Hormozgān | Īlām | Isfahan | Kermān | Kermanshah | Khūzestān | Kohgiluyeh a Boyer-Ahmad | Kordestan | Lorestān | Markazi | Māzandarān | Qazvin | Qom | Razavi Khorasan | Sistan a Baluchestan | Semnān | Tehran | Yazd | Zanjan

Tags:

CyrdegCyrdiaidCyrdistanIracIranKermanshahPerseg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CaerRichard Richards (AS Meirionnydd)MinskFfrangegAldous HuxleyMET-ArtGorgiasAlien (ffilm)TylluanJeremiah O'Donovan RossaRocyn25 EbrillComin WikimediaGeorgiaMessiChatGPTAlien RaidersGwladRhosllannerchrugogSafle Treftadaeth y BydGwlad PwylIrene PapasPiano LessonBibliothèque nationale de FranceGertrud ZuelzerPussy RiotNorwyaidYr HenfydDenmarcCefnforWicipedia CymraegYsgol Gyfun Maes-yr-Yrfa9 Ebrill202424 MehefinGoogleHen wraigLeigh Richmond RooseFfrwythNewfoundland (ynys)Diwydiant rhywRichard Wyn JonesBroughton, Swydd NorthamptonJulianNos GalanNepalFformiwla 17Yws GwyneddRhywedd anneuaiddClewerWiciadurAngeluOwen Morgan EdwardsIau (planed)Fack Ju Göhte 3Yr WyddfaIndia2020auJohn Churchill, Dug 1af MarlboroughY Ddraig GochRhestr ffilmiau â'r elw mwyafIeithoedd BrythonaiddIntegrated Authority File🡆 More