Defnyddir y term cyflwr mater i ddisgrifio'r ffurfiau gwahanol y mae mater yn eu cymryd.
Gwelir pedwar ffurf gyffredin mewn bywyd bob dydd, sef ffurfiau solet, hylifol, nwyol a phlasma.
Enghraifft o'r canlynol | nodwedd ffisegol |
---|---|
Math | gwedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y gwahaniaethau ym mhriodweddau'r naill gyflwr a'r llall a ddefnyddir fel arfer i ddiffinio cyflwr mater. Mae gan solidau gyfaint a ffurf sefydlog, gan fod y gronynnau'n agos at ei gilydd mewn lleoliadau sefydlog. Mae gan hylifau gyfaint sefydlog, ond mae eu ffurfiau'n newid, gan lenwi'r cynhwysydd sy'n dal yr hylif. Mae gronynnau'r hylif yn gymharol agos at ei gilydd o hyd, ond yn gyson symud. Mae nwyon yn newid eu maint a'u ffurf, ac yn newid y naill a'r llall yn ôl eu cynhwysydd. Nid yw gronynnau'r nwy yn agos at ei gilydd, na chwaith yn sefydlog. Mae plasma'n debyg i nwy gan bod ei faint a'i ffurf yn newidiol, ond yn ogystal ag atomau niwtral, mae plasma'n cynnwys ionau ac electronau sydd, eu dau, yn rhydd i symud o gwmpas. Plasma yw cyflwr mwyafrif y mater gweladwy o fewn y bydysawd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyflwr mater, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.