Cyflafan Parkland

Llofruddiaeth dorfol a gyflawnwyd gan Nikolas Cruz ar 14 Chwefror 2018 yn Uwchysgol Marjory Stoneman Douglas yn Parkland, Florida, Unol Daleithiau America, oedd cyflafan Parkland a laddodd 14 o fyfyrwyr a thri aelod o staff, ac anafodd 17 arall.

Hwn yw'r achos mwyaf angheuol o saethu torfol mewn ysgol uwchradd yn hanes yr Unol Daleithiau, a'r achos mwyaf angheuol ond dau—Newtown (2012) ac Uvalde (2022)—i ddigwydd mewn ysgol yn y wlad honno. Cruz yw'r saethwr torfol Americanaidd i ladd y nifer fwyaf o bobl a chael ei erlyn am ei droseddau; ym mhob un achos gyda chyfrif uwch o farwolaethau, lladdwyd y saethwr hefyd naill ai gan yr heddlu neu drwy law ei hun.

Cyn-fyfyriwr 19 oed o'r ysgol oedd Cruz, a chanddo hanes o gamymddygiad a phroblemau emosiynol. Ar brynhawn Dydd San Ffolant, 14 Chwefror 2018, cyrhaeddodd yr ysgol tua 14:19 o'r gloch, gyda reiffl led-awtomatig AR-15, cetris, a grenadau mwg yn ei feddiant. Tua 14:21, cychwynnodd saethu ar fyfyrwyr a staff mewn ystafelloedd dosbarth, a seiniodd y larwm tân er mwyn cael pobl i mewn i'r coridorau. Saethodd tri yn farw y tu allan i'r ysgol, a 12 y tu mewn i'r adeilad; bu farw dau arall yn yr ysbyty. Wedi'r trosedd, tua 14:28, ffoes Cruz trwy ollwng ei arf ac ymuno â'r dorf o bobl yn gadael yr adeilad. Dihangodd i Coral Springs, Florida, ychydig o filltiroedd o'r ysgol, lle cafodd ei arestio tua un awr yn ddiweddarach.

Digwyddodd y lladdfa yn ystod cynnydd o gefnogaeth gyhoeddus dros reolaeth ar ddrylliau, yn sgil achosion eraill o saethu torfol yn Las Vegas, Nevada (Hydref 2017), a Sutherland Springs, Texas (Tachwedd 2017). Daeth nifer o fyfyrwyr Ysgol Stoneman Douglas yn weithgar yn yr ymgyrch yn erbyn trais gynnau, a'r diwrnod wedi'r cyflafan sefydlasant y garfan bwyso Never Again MSD i lobïo dros newidiadau yn y gyfraith. Ar 9 Mawrth 2018, arwyddodd y Llywodraethwr Rick Scott fesur i gyfyngu ar ddeddfau arfau Florida, yn ogystal â galluogi ysgolion i arfogi athrawon hyfforddedig ac i hurio swyddogion yr heddlu i amddiffyn myfyrwyr.

Cafodd ymateb yr heddlu lleol, Swyddfa Siryf Broward County, ei feirniadu gan nifer o bobl, am i'r swyddogion anwybyddu sawl rhybudd ynglŷn ag ymddygiad Cruz ac am oedi y tu allan i'r ysgol yn hytrach na wynebu'r saethwr ar unwaith. O ganlyniad, ymddiswyddodd nifer o'r heddweision a oedd yn y fan yn ystod y trosedd, ac yn Hydref 2019 pleidleisiodd Senedd Florida i ddiswyddo'r Siryf Scott Israel. Penodwyd comisiwn i archwilio'r saethu, a wnaeth gondemnio diffyg gweithredu gan yr heddlu ac annog awdurdodau addysg ar draws y dalaith i gryfhau diogelwch yn yr ysgolion.

Ar 20 Hydref 2021, plediodd Cruz yn euog i bob un cyhuddiad yn ei erbyn, ac ymddiheuriodd. Ceisiodd yr erlyniaeth fynnu'r gosb eithaf os cafwyd euogfarn, a disgwylid i'r achos llys gychwyn yn Ionawr 2022, ond gohiriwyd y dedfryd sawl tro oherwydd pandemig COVID-19. O'r diwedd, dechreuodd y treial ynglŷn â dewis y gosb eitha ar 18 Gorffennaf 2022, ac ar 13 Hydref 2022 penderfynodd y rheithgor i argymell dedfryd o garchar am oes heb barôl. Disgwylir iddo gael ei ddedfrydu gan y barnwr ar 1 Tachwedd.

Cyfeiriadau

Tags:

Cyflafan NewtownFloridaParkland, FloridaSaethu torfol yn Unol Daleithiau AmericaUnol Daleithiau America

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Lene Theil SkovgaardJohn Bowen JonesBacteriaBig BoobsThe Songs We SangElin M. JonesFfilm gyffroCristnogaethCaethwasiaethYr HenfydHeartSiôr III, brenin y Deyrnas UnedigAlldafliadWici CofiPwyll ap SiônHenry LloydBetsi CadwaladrSue RoderickHirundinidaeLionel MessiTomwelltTalwrn y BeirddMulherEmma TeschnerThe Witches of BreastwickCyfraith tlodiDal y Mellt (cyfres deledu)ArchdderwyddXxyKirundiNewfoundland (ynys)Cariad Maes y Frwydr27 TachweddEmily TuckerGwenan EdwardsBudgieAnwythiant electromagnetigTsiecoslofaciaPatxi Xabier Lezama PerierAwstraliaAngel HeartOjujuAristotelesEroticaChatGPTTyrcegCynnyrch mewnwladol crynswthAnwsY Deyrnas UnedigLlandudnoManon Steffan RosHalogenXxIwan LlwydMyrddin ap DafyddWiliam III & II, brenin Lloegr a'r AlbanCawcaswsMae ar Ddyletswydd4 Chwefror🡆 More