Cwpan Yr Alban: Cystadleuaeth gwpan pêl-droed dynion yr Alban

Cwpan yr Alban (Saesneg: Scottish Cup; Gaeleg: Cupa na h-Alba) yw prif dwrnamaint cwpan pêl-droed yr Alban ac mae wedi'i drefnu gan Gymdeithas Bêl-droed yr Alban (SFA) ers 1874.

Ei enw llawn, swyddogol yw, Scottish Football Association Challenge Cup, Y rownd derfynol yw diwedd traddodiadol y tymor. Dyma ail gystadleuaeth cwpan cenedlaethol pêl-droed hynaf y byd, wedi Cwpan Lloegr a sefydlwyd yn 1871-72 (y trydedd gwpan hynaf yn y byd yw Cwpan Cymru a chwarewyd yn 1877-1878.)

Cwpan yr Alban
Cwpan Yr Alban: Hanes, Tlws, Strwythur
Enghraifft o'r canlynolcwpan pêl-droed y gymdeithas genedlaethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1874 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cwpan Yr Alban: Hanes, Tlws, Strwythur
Celtic yw'r tîm sydd â'r mwyaf o fuddugoliaethau yng Nghwpan yr Alban. Mae'r tlws yn ail o'r chwith, ochr yn ochr â thîm 1907-08
Cwpan Yr Alban: Hanes, Tlws, Strwythur
Airdrie v Celtic yn ffeinal 2007
Cwpan Yr Alban: Hanes, Tlws, Strwythur
Ffans St Johnstone yn ffeinal 2014
Cwpan Yr Alban: Hanes, Tlws, Strwythur
Robbie Neilson o dîm Hearts yn codi'r Cwpan a enillodd y clwb yn 2006

Hanes

Er mai dyma'r ail gystadleuaeth hynaf yn hanes pêl-droed ar ôl Cwpan yr FA, tlws Cwpan yr Alban yw'r tlws hynaf ym mhêl-droed a hefyd y tlws hynaf yn y byd. Fe'i cyflwynwyd gyntaf i Queen's Park, a enillodd rownd derfynol y twrnamaint agoriadol ym mis Mawrth 1874.

Sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban yn 1873 a chrëwyd Cwpan yr Alban fel cystadleuaeth flynyddol i'w haelodau. Digwyddodd gêm gyntaf Cwpan yr Alban ar 18 Hydref 1873 pan drechodd clwb Renton tîm Kilmarnock F.C. 2-0 yn y rownd gyntaf. Yn ei blynyddoedd cynnar, Queens Park oedd yn bennaf cyfrifol am y gystadleuaeth, a enillodd y rownd derfynol 10 gwaith yn yr ugain mlynedd cyntaf. Bu Vale of Leven, Dumbarton F.C. a Renton hefyd yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod hwn. Ym 1885, cofnodwyd y fuddugoliaeth fwyaf erioed yn y twrnamaint pan enillodd Arbroath 36-0 yn erbyn Bon Accord mewn gêm rownd gyntaf. Hon hefyd oedd y gêm bêl-droed broffesiynol â'r sgôr uchaf a gofnodwyd mewn hanes.

Tlws

Tlws Cwpan yr Alban yw'r tlws cenedlaethol hynaf a hefyd y tlws pêl-droed hynaf yn y byd. Fe'i gwnaed gan y gof arian George Edward & Sons yn Glasgow ac mae wedi'i gyflwyno i enillwyr y twrnamaint ers 1874. Mae'r tlws arian solet yn 50cm o uchder ac yn pwyso 2.25kg. Mae'r tlws gwreiddiol yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Bêl-droed yr Alban ym Mharc Hampden. Caiff ei dynnu unwaith y flwyddyn i'w lanhau a'i gyflwyno i enillwyr y twrnamaint. Ar ôl y seremoni gyflwyno, dychwelir y tlws i'r amgueddfa. Rhoddir copi o'r tlws gwreiddiol i enillwyr y twrnamaint ar ôl y seremoni ac fe'i defnyddir hefyd at ddibenion hyrwyddo.

Strwythur

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ffurff cystadleuaeth ddileu. Mae'r twrnamaint yn dechrau ar ddechrau tymor pêl-droed yr Alban, ym mis Awst. Rownd Derfynol Cwpan yr Alban fel arfer yw gêm olaf y tymor, sy’n cael ei chynnal ddiwedd mis Mai. Mae'n agored i'r 122 clwb sy'n aelodau llawn o gymdeithas bêl-droed yr Alban ynghyd a hyd at wyth clwb arall sy'n aelodau cysylltiol.

Yn draddodiadol mae rownd derfynol y twrnamaint wedi cael ei chwarae ym Mharc Hampden ers 1921. Yn y gorffennol, mae stadia eraill hefyd wedi cynnal y rownd derfynol pan nad oedd Parc Hampden ar y gael.

Mae enillydd y gwpan yn gymwys ar gyfer Cynghrair Europa UEFA.

Dim rownd derfynol

Ym 1909 oedd y tro cyntaf na chynhaliwyd gêm derfynol. Cafodd y twrnamaint cwpan ei ganslo oherwydd aflonyddwch rhwng cefnogwyr Celtic FC a Rangers FC. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r flwyddyn ganlynol (1915–1919) ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1940–1946), ni chynhaliwyd twrnameintiau cwpan chwaith.

Tabl enillwyr

    1874-2022
Clwb Enillydd Chwarae yn y ffeinal Enillydd yn:
Celtic F.C. 40 19 1892, 1899, 1900, 1904, 1907, 1908, 1911, 1912, 1914, 1923,
1925, 1927, 1931, 1933, 1937, 1951, 1954, 1965, 1967, 1969,
1971, 1972, 1974, 1975, 1977, 1980, 1985, 1988, 1989, 1995,
2001, 2004, 2005, 2007, 2011, 2013, 2017, 2018, 2019, 2020
Rangers F.C. 34 19 1894, 1897, 1898, 1903, 1928, 1930, 1932, 1934, 1935, 1936,
1948, 1949, 1950, 1953, 1960, 1962, 1963, 1964, 1966, 1973,
1976, 1978, 1979, 1981, 1992, 1993, 1996, 1999, 2000, 2002,
2003, 2008, 2009, 2022
Queen's Park F.C. 10 2 1874, 1875, 1876, 1880, 1881, 1882, 1884, 1886, 1890, 1893
Heart of Midlothian F.C. 8 9 1891, 1896, 1901, 1906, 1956, 1998, 2006, 2012
Aberdeen F.C. 7 9 1947, 1970, 1982, 1983, 1984, 1986, 1990
Hibernian F.C. 3 12 1887, 1902, 2016
Kilmarnock F.C. 3 5 1920, 1929, 1997
Vale of Leven F.C. 3 4 1877, 1878, 1879
Clyde F.C. 3 3 1939, 1955, 1958
St. Mirren F.C. 3 3 1926, 1959, 1987
Dundee United F.C. 2 7 1994, 2010
Motherwell F.C. 2 6 1952, 1991
Third Lanark A.C. 2 4 1889, 1905
Falkirk F.C. 2 3 1913, 1957
Renton F.C. 2 3 1885, 1888
Dunfermline Athletic F.C. 2 3 1961, 1968
St. Johnstone F.C. 2 2014, 2021
Dumbarton F.C. 1 5 1883
Dundee F.C. 1 4 1910
Airdrieonians FC 1 3 1924
East Fife F.C. 1 2 1938
Partick Thistle F.C. 1 1 1921
Greenock Morton F.C. 1 1 1922
St. Bernard's F.C. 1 1895
Inverness Caledonian Thistle F.C. 1 2015
Hamilton Academical F.C. 2
Clydesdale F.C. 1
Thornliebank F.C. 1
Cambuslang F.C. 1
Raith Rovers F.C. 1
Albion Rovers F.C. 1
Gretna F.C. 1
Queen of the South F.C. 1
Ross County F.C. 1

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Cwpan Yr Alban: Hanes, Tlws, Strwythur 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Cwpan Yr Alban: Hanes, Tlws, Strwythur  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Cwpan Yr Alban HanesCwpan Yr Alban TlwsCwpan Yr Alban StrwythurCwpan Yr Alban Dim rownd derfynolCwpan Yr Alban Tabl enillwyrCwpan Yr Alban Gweler hefydCwpan Yr Alban CyfeiriadauCwpan Yr Alban Dolenni allanolCwpan Yr AlbanCwpan CymruCwpan LloegrCymdeithas Bêl-droed Yr AlbanGaelegPêl-droedSaesnegYr Alban

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Y Dadeni DysgRhestr dyddiau'r flwyddynLlanwIseldiregIemenOCLC1883163Franklin County, Gogledd CarolinaNot the Cosbys XXXTianjinYr Emiradau Arabaidd UnedigPenrith, CumbriaXbox 360William Morgan (esgob)Sri LancaCymruAnsar al-Sharia (Tiwnisia)SeidrUned brosesu ganologCefnfor ArctigGwyddor Seinegol RyngwladolKeyesport, IllinoisNaked SoulsPryderiCalendr HebreaiddComisiynydd yr Heddlu a ThrosedduLlain GazaSefydliad WicimediaY Dwyrain CanolLerpwlAnwsSunderland A.F.C.InvertigoTotalitariaethRisinY Deyrnas UnedigArfJapanegThe Next Three DaysHouse of DraculaMudiad dinesyddion sofranAnkstmusikMichael Sheen1924Sex and The Single GirlBlaiddBwlch OerddrwsIwerddonWordleDisturbiaDiwylliant CymruAfonDewi PrysorCryno ddicPrifysgolSimon BowerHuw ChiswellMererid HopwoodLiam NeesonUsenetSwdanOctavio PazCod QRTŷ unnosKadhalna Summa IllaiMalavita – The FamilyTomos a'i FfrindiauRhys Mwyn🡆 More