Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Decimus Clodius Ceionius Septimius Albinus, mwy adnabyddus fel Clodius Albinus (25 Tachwedd 147 – 19 Chwefror 197).
Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax, cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr.
Clodius Albinus | |
---|---|
Ganwyd | 150 Hadrumetum |
Bu farw | 19 Chwefror 197 Lugdunum |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Ceionius Postumius |
Mam | Aurelia Messalina |
Plant | Pescennius Princus |
Ganed ef yn Hadrumetum, yn nhalaith Affrica, i deulu uchelwrol. Ymunodd a'r fyddin, a thynnodd sylw ato ei hun wrth ymadd yn erbyn gwrthryfel Avidius Cassius yn 175; ysgrifennodd yr ymerawdwr Marcus Aurelius ddau lythyr ato yn ei ganmol.
Daeth yn llywodraethwr talaith Gallia Belgica ac yna yn llywodraethwr Prydain. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Pertinax, gwerthodd Gard y Praetoriwm yr orsedd i'r sawl a gynigiai fwyaf o arian iddynt, y seneddwr cyfoethog Didius Julianus. Gwrthryfelodd tri llywodraethwr yn ei erbyn, Pescennius Níger yn Syria, Septimius Severus yn Pannonia ac Albinus ym Mhrydain. gyda chefnogaeth y milwyr yng Ngâl hefyd.
Ar y dechrau, gwnaeth Albinus gynghrair a Septimius Severus yn erbyn Pescennius Níger. Wedi i Niger gael ei orchfygu ym Mrwydr Issos yn 194, bu Albinus a Severus yn ymladd yn erbyn ei gilydd am rai blynyddoedd. Gorchfygwyd byddin Albinus ger Lugdunum ar 19 Chwefror 197, a lladdwyd ef ei hun yn y frwydr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Clodius Albinus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.