Mae Chelyabinsk (Rwsieg: Челя́бинск, IPA: ) yn ddinas ac yn ganolfan weinyddol yr Oblast Chelyabinsk, Rwsia.
Hi yw'r seithfed ddinas fwyaf yn Rwsia yn ôl ei phoblogaeth, gyda 1,130,132 o drigolion yng Nghyfrifiad 2010, a'r ail ddinas fwyaf yn Dosbarth Ffederal Ural, ar ôl Yekaterinburg. Wedi'i lleoli yng ngogledd-ddwyrain yr oblast, 210 cilomedr (130 milltir) i'r de o Yekaterinburg, mae'r ddinas ychydig i'r dwyrain o'r Mynyddoedd Ural. Mae'n eistedd ar Afon Miass, afon sydd wedi ei leoli ar ran o'r ffin rhwng Ewrop ac Asia
Челя́бинск | |
Math | uned weinyddol o dir yn Rwsia, tref/dinas |
---|---|
Poblogaeth | 1,182,517 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Yevgeny Teftelev, Kotova, Natalia Petrovna |
Cylchfa amser | UTC+05:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Chelyabinsk |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 500.9 km² |
Uwch y môr | 220 metr |
Cyfesurynnau | 55.15°N 61.4°E |
Cod post | 454000–454999 |
Pennaeth y Llywodraeth | Yevgeny Teftelev, Kotova, Natalia Petrovna |
Mae Chelyabinsk yn parhau i fod yn ganolfan ddiwydiannol bwysig ers adeg yr Undeb Sofietaidd; lle y cynhyrchwyd lawer o danciau ar gyfer y Fyddin Goch. Mae hi'n enwedig yn parhau gyda diwydiannau trwm fel diwydiannau metelegol a cynhyrchu eitemau milwrol. Mae'n gartref i sawl sefydliad addysgol, yn bennaf Prifysgol Talaith De yr Ural a Phrifysgol Talaith Chelyabinsk. Yn 2013, ffrwydrodd gwibfaen Chelyabinsk dros Mynyddoedd yr Ural, gyda darnau yn cwympo i'r ddinas gan gwibio'n agos ati. Achosodd y ffrwydriad o'r meteor gannoedd o anafiadau, rhai ohonynt yn ddifrifol, wedi'u hachosi'n bennaf gan ddarnau gwydr o ffenestri wedi'u chwalu. Mae Amgueddfa Ranbarthol Chelyabinsk yn cynnwys darnau o'r gwibfaen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Chelyabinsk, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.