Ürümqi yw prifddinas Rhanbarth Ymreolaethol Xinjiang, Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 2,082,000. O holl ddinasoedd y byd gyda phoblogaeth dros filiwn, Ürümqi yw'r bellaf o'r môr.
Math | dinas lefel rhaglawiaeth, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 4,054,369 |
Pennaeth llywodraeth | Ilham Sabir, Memtimin Qadir |
Cylchfa amser | UTC+08:00, Xinjiang Time |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Xinjiang |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Arwynebedd | 13,783.1 km² |
Uwch y môr | 800 metr |
Cyfesurynnau | 43.8225°N 87.6125°E |
Cod post | 830000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Ilham Sabir, Memtimin Qadir |
Yng nghyfnod Brenhinllin Qing a Gweriniaeth Tsieina, enw'r ddinas oedd Dinghua 迪化. Yn 1954, newidiwyd yr enw i Wulumuqi 乌鲁木齐市/Ürümqi. Ystyr Ürümqi yw "teml goch" mewn Mongoleg a "meysydd hyfryd" mewn Uighureg.
Ürümqi yw dinas fwyaf rhan orllewinol Tsieina. Mewnfudodd llawer o Tsineaid Han i'r ddinas yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r Uighur brodorol bellach yn lleiafrif yn y ddinas, er mai hwy yw'r grŵp ethnig mwyaf yn Xinjiang gyfan. Ym mis Gorffennaf 2009, bu ymladd ar strydoedd y ddinas rhwng y ddau grŵp ethnig, a chredir i rai cannoedd gael ei lladd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ürümqi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.