Cantores a chyfansoddwraig Gymreig yw Cate Le Bon (ganwyd Cate Timothy ar 4 Mawrth 1983) sydd nawr yn byw Los Angeles.
Mae hi'n canu yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Cate Le Bon | |
---|---|
Le Bon yn perfformio yn The Arch, Village Underground, Llundain ar 23 Ebrill 2012 | |
Y Cefndir | |
Enw (ar enedigaeth) | Cate Timothy |
Ganwyd | Penboyr, Sir Gaerfyrddin | 4 Mawrth 1983
Math o Gerddoriaeth | Gwerin, roc, pop |
Gwaith | Awdur caneuon, cerddor |
Offeryn/nau | Llais, gitar |
Cyfnod perfformio | 2007–presennol |
Label |
|
Perff'au eraill |
|
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Ganwyd Le Bon ym Mhen-boyr, Sir Gaerfyrddin, a daeth i sylw'r cyhoedd yn gyntaf pan gefnogodd Gruff Rhys (o'r Super Furry Animals) ar ei daith unigol ar draws gwledydd Prydain yn 2007. Ymddangosodd fel canwr gwestai ar sengl 2008 Neon Neon "I Lust U" oddi ar eu halbwm Stainless Style. O dan ei enw gwreiddiol canodd llais cefndir ar albwm unigol cyntaf Richard James, The Seven Sleepers Den yn 2006. Mae hi hefyd yn ymddangos ar ei ail albwm unigol, We Went Riding yn 2010.
Gweithiodd Le Bon gyda aelod blaen Funeral for a Friend Matt Davies ar ei albwm unigol Impressionist Road Map of The West rhwng mis Rhagfyr 2005 ac Awst 2006. Cafodd yr albwm ei rhyddhau yn 2007.
Ei record swyddogol yn y Gymraeg oedd yr EP, Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg (yn debyg i'r ymadrodd Saesneg "to look a gift horse in the mouth"), ar Recordiau Peski yn 2008. Fe ryddhaodd sengl dwbl-ochr cyntaf "No One Can Drag Me Down" / "Disappear" (disgrifiwyd gan Gruff Rhys fel "Bobbie Gentry a Nico yn ymladd dros bysellfwrdd Casio; mae alaw yn ennill!") ar ei gwefan. Gweithiodd Le Bon ochr yn ochr â Megan Childs o Gorky's Zygotic Mynci, yn chwarae'r ffidil, a chydweithiwr Super Furry Animals a Thrills, John Thomas, a ychwanegodd pedal dur.
Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf, Me Oh My (adnabuwyd yn flaenorol o dan y teitl gweithiol Pet Deaths), ei ryddhau yn 2009.
Yn 2010, canodd Le Bon lais cefndir ar nifer o draciau o ail albwm The Gentle Good, Tethered for the Storm. Cydweithiodd hefyd gyda phrif ganwr Race Horses, Meilyr Jones ar y prosiect Yoke. Yn 2011, fe wnaeth yr artist Boom Bip ddefnyddio llais Le Bon ar y trac "Do as I Do" o'r albwm Zig Zaj.
Yn 2012, ryddhawodd Le Bon yr albwm Cyrk, wedi'i ddilyn gan yr EP Cyrk II.
Ym mis Ionawr 2013, symudodd Le Bon i Los Angeles i hyrwyddo ei gyrfa yn yr Unol Daleithiau. Rhyddhawyd ei thrydydd albwm, Mug Museum, yn Nhachwedd 2013, a'i cynhyrchwyd gan Noah Georgeson a Josiah Steinbrick yn Los Angeles, gyda'i phartner ar y pryd H. Hawkline ar y gitâr a Sweet Baboo ar y bas. Bu'n ganwr gwadd ar y trac "Slow Train" o albwm cyntaf Kevin Morby Harlem Afonydd ac ar y trac "Coming Through" sy'n ymddangos ar yr albwm does Nobody Knows gan Willis Earl Beal.
Ym mis Medi a mis Hydref 2013, cefnogodd Le Bon y Manic Street Preachers ar nifer o ddyddiadau eu taith o gwmpas DU. Roedd hi'n brif leisydd ar eu trac "4 Lonely Roads" ar eu halbwm Rewind the Ffilm, a ryddhawyd ym mis Medi 2013.
Roedd hi fod i arwain gŵyl gerddoriaeth yn Aberteifi, ym mis Awst 2014, ond cafodd ei ganslo oherwydd materion trwyddedu.
Yn 2015, cyhoeddodd Le Bon a Tim Presley eu halbwm cyntafo'r enw Hermits on Holiday yn cydweithio dan yr enw DRINKS. Cafodd ei ryddhau ym mis Awst 2015.
Rhyddhaodd Le Bon ei pedwerydd albwm stiwdio, Crab Day, ar 15 Ebrill 2016 ar label Drag City gan dderbyn canmoliaeth o'r beirniaid. Cafodd yr albwm ei gynhyrchu gan Josiah Steinbrick a Noah Georgeson a fe'i recordiwyd yn Panoramig House, plasty ar ben y bryn yn nhref arfordirol Stinson Beach, California.
Mae Le Bon yn cael ei chanmol gan y beirniaid am ei "llais hardd, hudolus". Mae Le Bon yn honni bod "profiadau cynnar gyda nifer o farwolaethau anifeiliaid anwes wedi cael effaith dwys parhaol arna'i" ac yn ei gyfrifol am ei "obsesiwn anarferol gyda marwolaeth".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cate Le Bon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.