Mae tua 12,000 o rywogaethau yn y byd. Fel arfer maent yn tyfu ar ffurf matiau neu glympiau mewn lleoedd llaith neu gysgodol. Mae mwsoglau'n blanhigion anfasgwlaidd heb feinwe sylem a ffloem i gludo dŵr. Maent yn atgenhedlu â sborau yn hytrach na hadau ond mae ganddynt ddail syml, un gell o ran trwch ar fonyn nad yw'n arbennig o dda am dynnu dŵr a maeth.
Fel rheol, maent yn 0.2–10 cm (0.1–3.9 modf.) o daldra, ond mae rhai rhywogaethau'n llawer mwy na hyn: Dawsonia, yw'r math talaf, a gall dyfu i hyd at 50 cm (20 modf.) o uchter.
Defnydd gan y werin
Sebon Teiliwr: "Bu Mrs Heulwen Roberts o Faentwrog yn son wrthym' 'am fwsogl sy’n tyfu ar lannau pyllau a alwai’n “sebon teiliwr. Cofiai deilwriaid yn ei gasglu yn ystod ei ieuenctid i smwddio i mewn i ddillad i'w startsio. Ni wyddom at ba fwsogl y cyfeiriai, os mwsogl o gwbl ond fe gafwyd, ar ôl rhywfaint o ymchwil, ei bod yn bosibl mai cen cerrig oedd y planhigyn, e.e. Ramalina calicaris."
Mwsoglu - yr arferiad o hel a defnyddio mwsogl gan y werin bobl.
Llyffethair o fwsogl: "Glywoch chi am neud rhaff o'r sidan bengoch [Polytrichum commune]? Mi ddangosodd 'newyrth i fi dros ugain mlynedd yn ôl sut i neud llyffethair ohono - peth handi iawn i allu i neud ar y mynydd. Ar ôl rhyddhau's pishys o sidan bengoch o wrth eu gilydd a'u neud yn bentwr, mi fachodd nhw a bys un llaw trwy'r llaw arall (oedd ar ffurf arwydd 'ok' dros y twmpath). Wrth eu troi a'u plethu, roedd y gorden a nawd yn cael ei dala yng nghanol y llaw oedd yn troi, ar siap malwen (h.y. yn cyfyngu ar ei gallu i droi yn rhydd). I fennu, mi ddyblodd y rhaff (a thrwy hynny wrthwneud grym y troi wrth gwrs) a wedyn agor y bleth er mwyn rhoi un pen trwy blethau'r llall. Wrth feddwl, dim llyffethair sensu stricto oedd e, ond cylch - torch oedd ei enw amdano. Mi'i rhoid rownd gwddwg y ddafad er mwyn rhoi ei throed drwyddi." (Carchar yw'r term am llyffethair yn Arfon)
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mwsogl, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.