Ymladdwyd Brwydr Waterloo ar 18 Mehefin 1815 gerllaw pentref Waterloo yng Ngwlad Belg.
Brwydrai byddin o Ffrainc, o dan arweinyddiaeth Napoleon Bonaparte, yn erbyn cynghrair byddinoedd Prydain, o dan arweinyddiaeth Dug Wellington, a Phrwsia, o dan arweinyddiaeth Gebhard Leberecht von Blücher.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 18 Mehefin 1815 |
Rhan o | Waterloo Campaign |
Lleoliad | Waterloo Battlefield |
Gwladwriaeth | Gwlad Belg |
Rhanbarth | Braine-l'Alleud |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hon oedd y frwydr dyngedfennol yn ymgyrch Napoleon i adennill pŵer wedi iddo ddianc oddi ar Ynys Elba. Wedi iddo golli brwydr Waterloo fe alltudiwyd Napoleon unwaith yn rhagor, y tro hwn i ynys Sant Helena.
Codwyd Pont Waterloo ger Betws-y-Coed yn yr un flwyddyn, i gofio'r frwydr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brwydr Waterloo, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.