Un o frwydrau y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol oedd Brwydr Gallipoli, weithiau Ymgyrch y Dardanelles, (Twrceg: Çanakkale Savaşları) a ymladdwyd ar benrhyn Gallipoli (Twrci) rhwng 25 Ebrill 1915 hyd 9 Ionawr 1916.
Glaniodd byddin y cyngheiriaid, oedd yn cynnwys carfan gref o'r Ymerodraeth Brydeinig, yn enwedig milwyr o Awstralia a Seland Newydd, ynghyd â milwyr Ffrengig, ar y penrhyn gyda'r bwriad o gipio Istanbul, prifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid. Byddai hyn wedi agor y culfor sy'n arwain i'r Môr Du, a'i geneud yn bosibl i yrru adnoddau rhyfel i gynorthwyo Rwsia.
Enghraifft o'r canlynol | ymgyrch filwrol, ymosodiad milwrol |
---|---|
Dyddiad | 9 Ionawr 1916 |
Rhan o | y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol |
Dechreuwyd | 25 Ebrill 1915 |
Daeth i ben | 9 Ionawr 1916 |
Lleoliad | Gallipoli |
Gwladwriaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Wedi misoedd o ymladd caled yn erbyn byddin yr Ymerodraeth Otomanaidd, gorfodwyd y cyngheiriad i encilio yn Ionawr 1916, wedi diddoef colledion mawr. Daeth arweinydd y Twrciaid, Mustafa Kemal Atatürk, yn arwr cenedlaethol, a gwelir y frwydr fel dechrau'r broses a arweiniodd at annibyniaeth Twrci wyth mlynedd yn ddiweddarach dan Atatürk.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brwydr Gallipoli, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.