Mae Bridge of Spies yn ffilm hanesyddol ddrama-gyffrous 2015 a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg o sgript a ysgrifennwyd gan Matt Charman, Ethan Coen, a Joel Coen.
Serenna Tom Hanks, Mark Rylance, Amy Ryan, ac Alan Alda yn y ffilm. Fe'i seiliwyd ar y digwyddiad U-2 a gymerodd lle yn 1960 yn ystod y Rhyfel Oer. Adrodda'r ffilm stori'r cyfreithiwr James B. Donovan, sy'n gyfrifol am negodi rhyddhad Francis Gary Powers - peilot awyren ysbiwr U-2 a saethwyd i lawr uwchben yr Undeb Sofietaidd—fe'i gyfnewidiwyd am Rudolf Abel, ysbiwr KGB Sofietaidd oedd yn cael ei ddal gan yr Unol Daleithiau. Cyfeiria enw'r ffilm at Bont Glienicke, sy'n cysylltu Potsdam gyda Berlin, lle cyfnewidiwyd yr ysbiwyr.
Poster sinema'r ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Steven Spielberg |
Cynhyrchydd | Steven Spielberg Marc Platt Kristie Macosko Krieger |
Ysgrifennwr | Matt Charman Joel Coen Ethan Coen |
Serennu | Tom Hanks Mark Rylance Amy Ryan Alan Alda |
Cerddoriaeth | Thomas Newman |
Sinematograffeg | Janusz Kamiński |
Golygydd | Michael Kahn |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | DreamWorks Pictures Fox 2000 Pictures Reliance Entertainment Participant Media TSG Entertainment Afterworks Limited Studio Babeksberg Amblin Entertainment Marc Platt Productions |
Dyddiad rhyddhau | Walt Disney Studios Motion Pictures (Gogledd America) 20th Century Fox (Rhyngwladol) 4 Hydref, 2015 (Gŵyl Ffilmiau Efrog Newydd) 16 Hydref, 2015 (Yr Unol Daleithiau) |
Amser rhedeg | 141 munud |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Saethwyd Bridge of Spies o dan y teitl gweithio St. James Place. Dechreuodd y brif ffotograffiaeth ar 8 Medi, 2014, yn Brooklyn, Dinas Efrog Newydd, a pharhaodd y cynhyrchu yn Stiwdios Babelsberg ym Motsdam. Rhyddhawyd y ffilm gan Touchstone Pictures ar 16 Hydref, 2015, yng Ngogledd America a fe'i dosbarthwyd gan 20th Century Fox mewn gweledydd eraill. Roedd yn llwyddiant yn ystod ei chyfnod yn y sinema, yn ennill $165.5 miliwn yn fyd-eang a derbyniodd ganmoliaeth feirnidadol. Fe'i chanmolwyd ar gyfer ei chyfarwyddo, sgript, actio, sgôr, a chynhyrchu. Derbyniodd y ffilm chwe enwebiad Gwobr yr Academi gan gynnwys Ffilm Orau a Sgript Wreiddiol Orau ac enillodd Rylance y wobr ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau.
Dosbarthwyd Bridge of Spies yng Ngogledd America gan Walt Disney Studios Motion Pictures, o dan faner Touchstone Pictures. Cynhaliodd Disney premiere y byd y ar 4 Hydref, 2015 yn y 53ain Gŵyl Ffilmiau Efrog Newydd. Rhyddhawyd y ffilm mewn sinemâu yn yr Unol Daleithiau ar 16 Hydref, 2015. Dosbarthwyd y ffilm gan 20th Century Fox mewn gwledydd eraill.
Rhyddhawyd poster sinema'r ffilm ar 4 Mehefin, 2015, gyda rhaghysbyseg gyntaf y ffilm yn ymddangos ar-lein y diwrnod canlynol.
Rhyddhawyd y ffilm gan Touchstone Home Entertainment ar Blu-ray, DVD, a lawrlwythiad digidol yng Ngogledd America ar 2 Chwefror, 2016 a gan 20th Century Fox Home Entertainment mewn gweledydd eraill.
Cyhoeddwyd yn wreiddiol y byddai John Williams yn cyfansoddi sgôr y ffilm. Er hyn, roedd yn rhaid i Williams adael y cynhyrchiad oherwydd problem iechyd. Cysylltodd Spielberg â Thomas Newman gan ofyn iddo gymryd lle Williams, gan olygu mai hon yw ffilm gyntaf Spielberg heb gerddoriaeth Williams ers The Color Purple yn 1985 a sgoriwyd gan Quincy Jones. Rhyddhawyd trac sain y ffilm gan Hollywood Records ar 16 Hydref, 2015.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bridge of Spies (ffilm), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.