Cyn bêldroediwr a rheolwr pêl-droed Cymreig yw Brian Flynn (ganwyd 12 Hydref 1955).
Roedd yn chwaraewr rhyngwladol ac yn reolwr ar dîm cenedlaethol Cymru ond sydd bellach yn Gyfarwyddwr Pêl-droed ar glwb Doncaster Rovers.
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Brian Flynn | ||
Dyddiad geni | 12 Hydref 1955 | ||
Man geni | Port Talbot, Cymru | ||
Taldra | 5 ft 3½ in (1.61 m | ||
Safle | Canol-cae | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1972–1977 | Burnley | 120 | (8) |
1977–1982 | Leeds United | 154 | (11) |
1982 | → Burnley (ar fenthyg) | 2 | (0) |
1982–1984 | Burnley | 80 | (11) |
1984–1985 | Dinas Caerdydd | 32 | (0) |
1985–1986 | Doncaster Rovers | 27 | (0) |
1986–1987 | Bury | 19 | (0) |
1987 | Limerick City | 10 | (1) |
1987–1988 | Doncaster Rovers | 24 | (1) |
1988–1993 | Wrecsam | 100 | (5) |
Cyfanswm | 568 | (37) | |
Tîm Cenedlaethol | |||
1974–1984 | Cymru | 66 | (7) |
Timau a Reolwyd | |||
1989–2001 | Wrecsam | ||
2002–2004 | Abertawe | ||
2004–2012 | Cymru dan 21 | ||
2010 | Cymru (gofalwr) | ||
2013 | Doncaster Rovers | ||
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Roedd yn reolwr ar dîm pêl-droed dan 21 Cymru o 2004 tan fis Mai 2012 a chymrodd yr awennau dros-dro fel rheolwr Cymru wedi i John Toshack ymddiswyddo a chyn i'r Gymdeithas Bêl-droed benodi Gary Speed
Dechreodd Flynn ei yrfa gyda Burnley gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ym 1973-74. Wedi 120 o ymddangosiadau yn y gynghrair, symudodd i Leeds United ym mis Tachwedd 1977. Wedi pum mlynedd yn Elland Road, symudodd yn ôl i Burnley ym mis Tachwedd 1982. Ar ôl 80 o gemau cynghrair dros gyfnod o pedair blynedd, ymunodd Flynn â Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd 1984.
Aeth ymlaen i chwarae dros Doncaster Rovers, Bury, Limerick City a Wrecsam a gwnaeth ei ymddangosiad olaf yn y gynghrair ar 3 Tachwedd 1992 pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Scunthorpe United.
Gwnaeth Flynn ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lwcsembwrg ym mis Tachwedd 1974. Llwyddodd i ennill 66 cap rhwng 1974 a 1984 gan sgorio 7 gôl.
Cafodd ei benodi'n chwaraewr-reolwr ar Wrecsam ym 1989 cyn gadael Y Cae Ras yn 2001. Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw llwyddodd Wrecsam i ennill Cwpan Cenedlaethol yr FAW ar dair achlysur a daeth y clwb yn enwog am drechu rhai o gewri pêl-droed Lloegr yng Nghwpan FA Lloegr, timau fel Arsenal a West Ham United.. Llwyddodd Flynn i sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf.
Cafodd ei benodi'n reolwr ar Abertawe ym mis Medi 2002. Roedd Abertawe ar waelod Y Gynghrair Bêl-droed pan gymrodd yr awenau a bu rhaid disgwyl tan gêm olaf y tymor a buddugoliaeth 4-2 dros Hull City i sicrhau bod Abertawe yn cadw eu lle yn y Gynghrair. Collodd Flynn ei swydd ym mis Mawrth 2004 yn dilyn rhediad siomedig o ganlyniadau
Ymunodd Flynn â thîm rheoli Cymru yn 2004 fel hyfforddwr tîm pêl-droed dan 21 Cymru. Daeth y tîm o fewn trwch blewyn o gyrraedd Pencampwriaeth UEFA dan 21 Euro 2009 gan golli yn erbyn Lloegr yn y gemau ail gyfle.
Yn dilyn ymadawiad John Toshack fel rheolwr Cymru ym mis Medi 2010 cafodd Flynn ei benodi'n reolwr dros dro ar Gymru. Cymerodd ofal o ddwy gêm yn erbyn Bwlgaria a'r Swistir.
Ym mis Medi 2012, ni chafodd cytundeb Flynn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ei adnewyddu .
Ym mis Ionawr 2013 cafodd Flynn ei benodi'n reolwr ar Doncaster Rovers a llwyddodd i arwain y clwb i ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth
Yn dilyn dyrchafiad cafodd Flynn ei benodi'n Gyfarwyddwr Pêl-droed ar Doncaster Rovers ond ym mis Awst 2014 gadawodd y clwb.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brian Flynn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.