Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr 20g yw'r flodeugerdd fwyaf cynhwysfawr o waith beirdd Cymraeg yr 20g sydd ar glawr.
Cafodd ei chyhoeddi gan Wasg Gomer ar y cŷd â Chyhoeddiadau Barddas yn 1987, wedi'i golygu gan y beirdd Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Golygydd | Gwynn ap Gwilym, Alan Llwyd |
Awdur | Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1987 |
Argaeledd | mewn print. |
Tudalennau | 736 |
Genre | Blodeugerddi |
Prif bwnc | barddoniaeth Gymraeg |
Mae'r flodeugerdd yn gyfrol fawr swmpus 736 tudalen sy'n cynnwys 550 o gerddi gan tua 100 o feirdd, ac sy'n ceisio cynrychioli pob agwedd ar farddoniaeth Gymraeg y cyfnod (ac eithrio degawd olaf y ganrif). Mae'n waith uchelgeisiol iawn a osododd safonau newydd ar gyfer cyhoeddi barddoniaeth gyfoes yng Nghymru. Yn ogystal â'r cerddi eu hunain ceir dros 110 tudalen o nodiadau yn gosod y cerddi yn eu cyd-destun.
Ceir ynddi waith y bardd gwlad a beirdd traddodiadol dechrau'r ganrif a gwaith modern arloesol, canu caeth a vers libre.
Mae'r beirdd yn cynnwys Euros Bowen Cynan, I. D. Hooson, Gwenallt, Saunders Lewis, John Morris-Jones, Bobi Jones, Dic Jones, T. Gwynn Jones, Gerallt Lloyd Owen, T. H. Parry-Williams, R. Williams Parry, Caradog Prichard, Gwyn Thomas, Harri Webb, Rhydwen Williams, Waldo Williams, Eifion Wyn, a llu o feirdd eraill.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.