Mabwysiadwyd baner Cenia neu baner Kenya (Swahili: Bendera ya Kenya) yn swyddogol ar 12 Rhagfyr 1963 y diwrnod i Cenia ddatgan ei hannibyniaeth.
Mae'r faner yn un trilliw llorweddol o ddu, coch a gwyrdd gyda ymylon gwyn i'r stribed coc sy'n rhedeg ar draws canol y maes. Yng nghanol y faner ceir tarian llwyth y Masai a dau gwaywffon wedi eu croesi. Mae'r faner wedi ei seilio ar faner mudiad y Kenya African National Union (KANU) a ddaeth, maes o law, i fod y blaid a reolodd y wlad o annibyniaeth hyd at 2002. Roedd y faner KANU wreiddiol yn ddu a choch gyda tharian yn y canol - lluniwyd on ar 3 Medi 1951.
Amodir lliwiau'r faner gan Archif Genedlaethol Cenia:
Du | Coch | Gwyrdd | |
---|---|---|---|
Lliwiau Safonol Prydeinig | — | 'Post office Red' 0-006 | 0-010 |
Mae'r darian a'r gwaywffyn croes yn symbol o ewyllys i amddiffyn ryddid. Mae'r faner wedi'i chynllunio i atgoffa'r Ceniaid o amserau anodd eu caethiwed dan lywodraeth drefendigaethol Ymerodraeth Prydain. Mae ystyr i liwiau'r stribedi yn y faner trilliw:
Mae'r faner yn seiliedig ar faner werdd-ddu Undeb Cenedlaethol Affricanaidd Kenya, a arweiniodd y frwydr o annibyniaeth.
Cyn bod yn annibynnol, defnyddiwyd faner y Blue Ensign gydag arfbais yn yr adran hedfan fel baner drefedigaethol y "Colony and Protectorate of Kenya" Brydeinig.
Ceir amrywiaeth ar y faner genedlaetol ar gyfer baneri swyddogol eraill y wladwriaeth
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Baner Cenia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.