Banc tywod anferthol yng nghanol Môr y Gogledd yw Banc Dogger (Iseldireg: Doggersbank, Almaeneg: Doggerbank, Daneg: Dogger banke).
Saif oddeutu 100 km (62 mill) i'r dwyrain o arfordir dwyreiniol Lloegr. Mae gan y tywyn ei hun arwynebedd o 17,600 km2 (6,800 millt2) - gyda'i hyd yn 260 km (160 mi) a'i led yn 97 km (60 mill) - ac mae'n gorwedd 17–36 m (55-120 tr) dan wyneb y dŵr. Mae gwely'r môr o'i gwmpas, ar gyfartaeldd, 20 m (66 tr) yn is.
Math | ocean bank, ucheldir |
---|---|
Enwyd ar ôl | dogger, glannau |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Yr Iseldiroedd, Denmarc, yr Almaen |
Arwynebedd | 17,600 km² |
Gerllaw | Môr y Gogledd |
Cyfesurynnau | 55.25°N 3.5°E |
Hyd | 260 cilometr |
Gwyr pysgotwyr ers canrifoedd ei fod yn fan gwych i bysgota a daw ei enw o'r Hen Iseldireg am gychod dal penfras.
Mae sawl brwydr môr wedi'i ymladd ar y banc gan gynnwys Brwydr Banc Dogger yn 1696, 1781, 1915 ac yn 1966 pan suddwyd un o longau tanfor yr Almaen.
Mae'r tir hwn o dan y môr yn debyg i farian, wedi'i ffurfio yn ystod y Pleistosen. Ar adegau o'r oes yr iâ diwethaf roedd yn rhan o'r tir mawr, neu ar adegau yn ynys. Pan cyfeirir ato ar yr adeg yma (pan oedd yn un ag Ynysoedd Prydain) gelwir ef yn Doggerland (neu Dir Dogger).
Cysylltai doggerland Prydain ag Ewrop. Diflanodd dan y môr rhwng 6,500-6,200 CP wrth i lefel y môr godi, ac o bosib mewn swnami a achoswyd gan 'Lithren Storegga'. yn Oes Ganol y Cerrig roedd y tir yn gyfoethog iawn, gydag amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn byw arno.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Banc Dogger, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.