Tîm beicio proffesiynol sy'n cystadlu ar Gylchdaith Proffesiynol yr UCI ydy Astana Pro 'Team' (Côd UCI: AST).
Lleolir y tîm yng Nghsachstan a chaiff ei noddi gan Samruk-Kazyna, sef clymblaid o gwmniau sy'n eiddo i'r wladwriaeth, ac mae'r tîm yn dwyn enw'r brifddinas, Astana.
Astana Pro Team | ||
Gwybodaeth y Tîm | ||
---|---|---|
Côd UCI | AST | |
Lleoliad | Casachstan | |
Sefydlwyd | 2007 | |
Disgyblaeth(au) | Ffordd | |
Statws | UCI ProTeam | |
Beiciau | Specialized | |
Personél Allweddol | ||
Rheolwr Cyffredinol | Alexander Vinokourov | |
|
Derbyniodd Astana statws UCI ProTeam yn ei flwyddyn gyntaf yn 2007 gyda Marc Biver yn cael ei benodi'n reolwr ar y tîm. Yn ystod Tour de France 2007, methodd arweinydd y tîm, Alexander Vinokourov, brawf cyffuriau arweiniodd at drefnwyr y Tour de France yn gwahodd Astana i dynnu yn ôl o'r ras. Ar ddiwedd y tymor, diswyddwyd Biver a penodwyd cyn reolwr tîm U.S. Postal/Discovery Channel, Johan Bruyneel ar gyfer tymor 2008.
Llwyddodd Bruyneel i ddenu enillydd Tour de France 2007, Alberto Contador, i'r tîm. Ond ni chafodd Contador amddiffyn ei goron wedi i drefnwyr y Tour de France wrthod gwahodd Astana i rasio yn y Tour de France yn 2008 oherwydd ymchwiliad Operation Puerto i'r defnydd o gyffuriau gan feicwyr proffesiynol.
Ym mis Medi 2008 cyhoeddodd Astana fod Lance Armstrong yn ymuno â'r tîm ar gyfer tymor 2009 ac roedd yn rhan o'r tîm lwyddodd i helpu Alberto Contador i gipio'r Maillot Jaune, ond yn dilyn problemau ariannol a brwydr mewnol rhwng Johan Bruyneel ac Alexander Vinokourov, oedd wedi dychwleyd i'r tîm ar ôl gwaharddiad am ddefnyddio cyffuriau, symudodd Bruyneel i gymryd rôl rheoli Team RadioShack ar gyfer tymor 2010.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Astana (tîm seiclo), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.