Sefydliad addysg uwch a leolid yn Kyiv oedd Academi Mohyla Kyiv (Wcreineg: Києво-Могилянська академія trawslythreniad: Kyievo-Mohylianska akademiia o 1694–1817; gelwid Coleg Mohyla Kyiv o 1632 i 1694).
Hwn oedd un o brif ganolfannau deallusol yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol yn ystod y cyfnod modern cynnar yn Nwyrain Ewrop.
Ffurfiodd Petro Mohyla Goleg (neu Golegiwm) Mohyla Kyiv ym 1632 drwy gyfuno Ysgol y Frawdoliaeth, a sefydlwyd gan Frawdoliaeth yr Epiffani yn Kyiv ym 1615–16, ag Ysgol Ogof-Fynachlog Kyiv a agorwyd gan Mohyla ym 1631. Nod Mohyla oedd i sefydlu canolfan ddysgedig ar fodel yr academïau mawr yn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, gan gynnig cyrsiau mewn athroniaeth a diwinyddiaeth a goruchwylio rhwydwaith o ysgolion uwchradd, ac i atgyfnerthu addysg Uniongred yn Wcráin drwy gystadlu ag academïau'r Iesuwyr yng Ngwlad Pwyl. Fodd bynnag, rhoddodd y Brenin Władysław IV Vasa ond statws coleg neu ysgol uwchradd i'r sefydliad newydd, a gwaharddodd yr athrawon rhag addysgu athroniaeth a diwinyddiaeth.
Ers y cychwyn, cefnogwyd y coleg yn frwd gan swyddogion Cosaciaid Zaporizhzhia. Derbyniodd ei siarter oddi ar yr Hetman Ivan Petrazhytsky-Kulaha ym 1632. Yn sgil Cytundeb Pereiaslav (1654), daeth yr Hetmanaeth—ac felly'r coleg—dan benarglwyddiaeth Tsaraeth Rwsia. Blodeuai yn enwedig dan arweiniad yr Hetman Ivan Mazepa (teyrnasai 1687—1708). Daeth nifer o ddiwinyddion ac ysgolheigion nodedig i ddarlithio yno, gan gynnwys Inokentii Gizel, Teofan Prokopovych, Stefan Yavrosky, Mykhail Kozachynsky, ac Heorhii Konysky, ac agorwyd canghennau yn Vinnytsia, Hoshcha, Kremianets, ac Iași.
O'r diwedd, ym 1694, ar gais yr Hetman Mazepa, rhoddwyd holl freintiau prifysgol i Goleg Mohyla Kyiv, a fe'i dyrchafwyd i bob pwrpas yn academi. Fodd bynnag, ni chydnabuwyd yr enw Academi Mohyla Kyiv yn swyddogol gan y Tsar Pedr I nes 1701. Ym 1700, roedd ganddi ryw 2,000 o fyfyrwyr, ac yn ystod y 18g amrywiodd y nifer o 500 i 1,200 gan amlaf. Sefydlwyd colegau yn Chernihiv (1701), Kharkiv (1726), a Pereiaslav ar fodel Academi Mohyla Kyiv, a dylanwadwyd ar ddatblygiad ysgolion uwchradd yn Rwsia gan draddodiadau'r academi. Caewyd yr academi gan awdurdodau Ymerodraeth Rwsia ym 1817, a sefydlwyd Academi Ddiwinyddol Kyiv yn ei lle. Adferwyd yr academi ar ffurf Prifysgol Genedlaethol Kyiv-Academi Mohyla ym 1991.
Yn wahanol i ysgolion a cholegau Uniongred eraill, a ddysgodd drwy gyfrwng Slafoneg Eglwysig a Groeg, penderfynodd Mohyla flaenoriaethu'r ieithoedd Lladin a Phwyleg oherwydd pwysigrwydd gwleidyddol ac ysgolheigaidd y rheiny. Lladin oedd prif iaith y darlithoedd. Fodd bynnag, ni esgeuluswyd Slafoneg Eglwysig (yr iaith litwrgïaidd), Groeg (iaith yr hen fam eglwys Fysantaidd), na Rwtheneg (iaith lenyddol yr Wcreiniaid a'r Belarwsiaid) yn llwyr.
Rhennid yr academi yn saith dosbarth, neu ysgol, a gynyddwyd i wyth yn y 18g. Astudiodd myfyrwyr ramadeg Ladin, Bwyleg, a Slafoneg yn ystod y pum dosbarth cyntaf, ac yna rhethreg Ladin a Phwyleg yn y ddau ddosbarth nesaf. Gorffennodd yr efrydiau gyda thair blynedd o athroniaeth Aristotelaidd a phedair blynedd o ddiwinyddiaeth. Gellir ystyried y pum dosbarth cyntaf—pob un yn para am un flwyddyn—yn rhaglen israddedig, ar sail y celfyddydau breiniol:
Yn ogystal â'r efrydiau uchod, disgwylid i fyfyrwyr dysgu hefyd rywfaint o rifyddeg, cerddoriaeth, paentio, ac holwyddoreg.
Yn y ddau ddosbarth canolradd, byddai myfyrwyr yn ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth eu hunain yn Lladin. Parodd y pedwerydd dosbarth am un flwyddyn, a'r pumed dosbarth am ddwy flynedd.
Wrth ddarllen y clasuron, byddai'r myfyrwyr hefyd yn dysgu am hanes, mytholeg Rufeinig, a daearyddiaeth yr Henfyd yn ystod y ddau ddosbarth hwn. Yn y 18g, byddent hefyd yn darllen barddoniaeth faróc yn Bwyleg (Jan Kochanowski, Samuel Twardowski) ac Wcreineg (Ivan Velychkovsky).
Er gwaethaf y gwaharddiad ar addysg athronyddol a diwinyddol yn y coleg yn yr 17g, byddai myfyrwyr gan amlaf yn amgyffred rhywfaint o'r fath feddwl wrth eu hastudiaethau. Ym 1642–46 cynigwyd diwinyddiaeth fel pwnc, ac yng nghanol y 1680au lluniwyd rhaglen gyfan o athroniaeth a diwinyddiaeth fel rhan bwysig o'r cwricwlwm. Dilynwyd y cyrsiau gramadeg a rhethreg gan dair blynedd o resymeg, ffiseg, a metaffiseg, gan sicrhau bod y myfyrwyr wedi eu hymdrochi yn y trifiwm traddodiadol. Aristoteles oedd sail yr athroniaeth hon, er iddi gael ei dysgu drwy gyfrwng sylwebwyr canoloesol yn hytrach na gweithiau efe ei hun. Dysgwyd felly syniadaeth Gristnogol Awstin o Hippo, Tomos o Acwin, Duns Scotus, a Wiliam o Ockham, yn ogystal â dyneiddwyr megis Lorenzo Valla, Juan Luis Vives, ac Erasmus, y diwinydd Protestannaidd Philipp Melanchthon, a'r Iesuwyr Francisco Suárez, Pedro da Fonseca, a Luis de Molina.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Academi Mohyla Kyiv, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.