Abdurrahman Wahid, hefyd Gus Dur (7 Medi 1940 - 30 Rhagfyr 2009) oedd pedwerydd Arlywydd Indonesia, o 1999 hyd 2001.
Abdurrahman Wahid | |
---|---|
Ganwyd | 7 Medi 1940 Jombang |
Bu farw | 30 Rhagfyr 2009 Dr. Cipto Mangunkusumo National General Hospital |
Dinasyddiaeth | Indonesia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr |
Swydd | Arlywydd Indonesia |
Taldra | 163 centimetr |
Plaid Wleidyddol | National Awakening Party |
Tad | Wahid Hasyim |
Priod | Sinta Nuriyah |
Plant | Alissa Qotrunnada, Yenny Wahid, Anita Hayatunnufus, Inayah Wulandari |
Gwobr/au | Seren Gweriniaeth Indonesia, Bintang Mahaputera, Urdd Ramon Magsaysay |
Gwefan | https://gusdur.net |
llofnod | |
Ganed ef yn Jombang, Dwyrain Jafa. Bu yn arweinydd plaid Islamaidd y Nahdlatul Ulama, a sylfaenodd y Partai Kebangkitan Bangsa (PKB, "Plaid Deffroad y Bobl"), wedi cwymp yr Arlywydd Suharto. Daeth yn Arlywydd yn 1999, a chymerodd gamau i ddemocrateiddio'r wlad, gan ddileu nifer o ddeddfau oedd yn rhoi Sineaid ethnig dan anfantais. Wedi cyfnod o salwch a chyhuddiadau o lygredd ymysg rhai o'r bobl o'i gwmpas, collodd ei swydd ym mis Gorffennaf 2001. Dilynwyd ef gan Megawati Sukarnoputri.
Rhagflaenydd : Bacharuddin Jusuf Habibie | Arlywyddion Indonesia Abdurrahman Wahid | Olynydd : Megawati Sukarnoputri |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Abdurrahman Wahid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.