Roedd Alfred Ernest Jones (1 Ionawr, 1879 – 11 Chwefror, 1958) yn seiciatrydd Cymreig ac yn ddisgybl i Sigmund Freud.
Ef oedd yn bennaf gyfrifol am ledaenu syniadau ei athro i'r Deyrnas Unedig ar Unol Daleithiau.
Ernest Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1879 Tre-gŵyr |
Bu farw | 11 Chwefror 1958 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | seiciatrydd, seicdreiddydd, niwrolegydd |
Cyflogwr | |
Priod | Morfydd Llwyn Owen |
Gwobr/au | Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain |
Fe'i ganwyd yn Nhre-gŵyr, ger Abertawe, ac addysgwyd ef yn gyntaf yn Ysgol Ramadeg Abertawe ac yna yng Nghaerdydd ac Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain lle graddiodd yn feddyg yn 1901. Ym 1907, tra yn Wien, daeth yn ddisgybl i'r seicolegydd enwog Freud. Gadawodd y cyfandir ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a dychwelodd i Lundain, lle sefydlodd y Gymdeithas Seicoanalytig Brydeinig ym 1919. Pan y bu rhaid i Freud adael Awstria yn sgil yr Anschluss ym 1938, bu Ernest Jones yn gymorth i'w ryddhau o ddwylo'r Natsiaid ac yna ei gynorthwyo i sefydlu yn Llundain yn ei flwyddyn diwethaf cyn ei farwolaeth ym 1939.
Roedd Ernest Jones hefyd yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth ac yn aelod cynnar o Blaid Cymru. Ei wraig gyntaf oedd y cyfansoddwraig Morfudd Llwyn Owen a briododd yn 1917 ac yna Katherine Jokl yn 1919. Ei lyfr sylweddol diwethaf oedd bywgraffiaeth swyddogol Freud, 'Sigmund Freud, Bywyd a Gwaith, 1954 - 1957'.
Roedd yn un o aelodau cyntaf Plaid Cymru ac yn gwaredu, gydol ei oes, nad oedd yn rhugl yn y Gymraeg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ernest Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.