Mae'r llythrennau cyfarwydd URL yn sefyll am Uniform Resource Locator, neu Lleolydd Adnoddau Unffurf yn y Gymraeg.
Gair ydyw am y cyfeiriad sy'n diffinio'r llwybr i ffeil neu wefan ar wasanaethydd Rhyngrwyd, e.e. gwasanaethydd gwe, gwasanaethydd FTP, gwasanaethydd e-bost a.y.y.b. Teipir URL ym mar cyfeiriad porwr gwe er mwyn cael mynediad at dudalennau gwe a ffeiliau ar y we. Yn ogystal mae'r URL ei hun wedi'i mewnosod yn y tudalennau eu hunain fel dolenni hyper-destun.
Mae'r URL yn cynnwys y rhagosodiad protocol (HTTP), enw'r parth (e.e. www.wikipedia.org) ac enw'r ffeil a gyrchir (gan gynnwys ei is-gyfeiriad os rhaid).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article URL, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.