Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ym Mhenarth, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gyfun Sant Cyres (Saesneg: St Cyres Comprehesive School).
Ysgol Gyfun Sant Cyres | |
---|---|
St Cyres Comprehensive School | |
Arwyddair | Strive Together, Challenge Yourself, Realise Everyone can Succeed |
Ystyr yr arwyddair | Ymdrechu Ynghyd, Heriwch eich Hunain, Sylweddolwch gall Bawb Lwyddo |
Sefydlwyd | 1958 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mr Brian P Lightman |
Cadeirydd | Mrs A Males OBE |
Arbenigedd | Sefydliad yn Rhaglen Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol |
Lleoliad | Clos Sant Cyres, Penarth, Bro Morgannwg, Cymru, CF64 2XP |
AALl | Bro Morgannwg |
Staff | tua 130 |
Disgyblion | 1,479 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Coch a du |
Gwefan | stcyres.valeofglamorgan.sch.uk |
Ar y funud, mae gan yr ysgol 1,479 o ddisgyblion rhwng 11 ac 18 oed gan gynnwys 251 yn y chwechedd ddosbarth, Mae'r ysgol wedi ei rannu rhwn dwy safle yn bresennol, gyda tua 1,100 o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 13 yn y brif safle ar gyrion tref Penarth, ac adeilad arll rhyw 2.5 milltir i ffwrdd yn Ninas Powys sy'n gartref i rhwng 300 a 400 o ddisgyblion blynyddoedd 7 i 9.
Bydd y prifathro presennol Mr Brian P Lightman yn gadael yr ysgol ym mis Medi 2010, wedi blwyddyn mewn secondiad i ddod yn ysgrifennydd cyffredinol yr ASCL (Association of School and College Leaders), yn cynyrchioli dros 14,000 o aelodau.
Sefydlwyd yr ysgol ym 1958, Ysgol Uwchradd Fodern Sant Cyres (St Cyres Secondary Modern School) oedd enw'r ysgol yn wreiddiol, cyn iddi gael ei throi'n ysgol gyfun.
Roedd Ysgol Gyfun Sant Cyres yn un o ddau ganolfan peilot ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn 2005/2006, ynghyd ag Coleg Llandrillo Cymru. Bu tua 400 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y peilot yn Llandrillo.
Y prif ysgolion yn nhalgylch Sant Cyres ydy Ysgol Gynradd Llandough, Ysgol Gynradd Sirol Fairfield, Ysgol Gynradd Cogan ac ysgolion cynradd Dinas Powys. Daw 20% o'r disgyblion o du allan i dalgylch yr ysgol yn l dewis y rhieni.
Mae arfbais yr ysgol yn chwarteri gyda symbol wahanol ym mhob chwarter:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Gyfun Sant Cyres, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.