Ysgol uwchradd yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion yw Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, neu Ysgol Llambed fel ei adnabyddir ar lafar.
Newidiwyd enw'r ysgol, sydd bellach yn ysgol 3-16 oed, yn Ysgol Bro Pedr. Daw traean y disgyblion o Sir Gaerfyrddin oherwydd lleoliad yr ysgol yn agos i’r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan | |
---|---|
Ysgol Llambed | |
Arwyddair | A Fo Ben Bid Bont |
Sefydlwyd | 1946 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog naturiol, Cymraeg a Saesneg |
Pennaeth | Mr Dylan Wyn |
Lleoliad | Heol Peterwell, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7BX |
AALl | Cyngor Sir Ceredigion |
Disgyblion | 700 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Gwyrdd |
Gwefan | http://www.ysgol-llambed.org.uk |
Mr Dylan Wyn yw prifathro presennol yr ysgol. Roedd 700 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006, yn ogystal â thua 120 yn y chweched ddosbarth.
Mae'n ysgol gymunedol ddwyieithog naturiol, gan fod llai na hanner y disgyblion yn dod o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, a siaradai tua hanner y disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf. Mae dau ddosbarth ym mhob grŵp oedran yn derbyn 60% o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae un dosbarth yn derbyn 40% o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd dau ddosbarth o ddysgwyr Cymraeg, sydd yn astudio’r Gymraeg ac addysg gorfforol trwy gyfrwng y Gymraeg (felly yn derbyn tua 20% o'u haddysg yn Gymraeg).
Ceir ffilm lliw mud cartref o'r Maes yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy'n rhan o'r Llyfrgell Genedlaethol. Yn y ffilm gwelir teuluoedd yn mwynhau eu hunain, pobl yn symud telynau, oedolion yn gwthio pram babi, y stondinau a criwiau sy'n amlwg yn perthyn neu'n gyfeillgar â'r ffilmiwr. Ceir hefyd glip anneglur o Dic Jones yn y Pafiliwn wrth gyhoeddi iddo ennill y Gadair.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.