Ynys Achill (Gwyddeleg: Acaill, Oileán Acla, Saesneg: Achill Island) yw ynys fwyaf Iwerddon.
Saif oddi ar arfordir gorllewinol Swydd Galway, Gweriniaeth Iwerddon, ac mae Pont Michael Davitt yn ei chysylltu a'r tir mawr rhwng pentrefi Gob an Choire a Poll Raithní. Mawndir yw 87% o'r ynys.
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Achill Sound |
Poblogaeth | 2,569 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Prydain |
Sir | Swydd Mayo |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 148 km² |
Uwch y môr | 688 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 53.9589°N 10.0389°W |
Yn 2006, roedd y boblogaeth tua 2,700, ond cyn Newyn Mawr Iwerddon yn y 19g roedd dros 6,000 o bobl yn byw yma. Mae'r pentrefi ar yr ynys yn cynnwys Keel, Dooagh, Dumha Éige a Dugort. Ceir olion trigolion ar yr ynys o tua 3000 CC; cafwyd hyd i rwyf o'r cyfnod yma mewn crannog ger Dookinella. Mae mynydd Slievemore yng nghanol yr ynys yn 672 m o uchder.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ynys Achill, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.