Yerba Mate

Mae Yerba mate (o Sbaeneg  ; Portiwgaleg: erva-mate neu  ; Gwarani ka'a) yn rhywogaeth o'r genws celynnen (Ilex), a'i enw botanegol yw Ilex paraguariensis.

Yerba Mate
Yerba mate yn tyfu yn y gwyllt

Defnyddir Yerba mate i wneud trwyth-ddiod a elwir yn mate. Pan gaiff ei weini'n oer, gelwir y ddiod yn tereré yn Guaraní. Yn draddodiadol caiff ei ddefnyddio yn rhanbarthau canolog a deheuol De America, yn bennaf yn Paraguay, yn ogystal ag yn yr Ariannin, Uruguay, Brasil, canolbarth a gorllewin Brasil, rhanbarth Chaco ym Bolifia a de Tsile. Mae hefyd yn boblogaidd yn y gymuned Druze yn Syria a Libanus, lle mae'n cael ei fewnforio o'r Ariannin. Tyfwyd a defnyddiwyd Yerba mate am y tro cyntaf gan bobl gynhenid Guaraní ac mewn rhai cymunedau Tupí yn ne Brasil, cyn y gwladychu Ewropeaidd. Gellir dod o hyd i Yerba mate mewn gwahanol ddiodydd ynni ar y farchnad, yn ogystal â chael eu gwerthu mewn potel neu mewn can fel te rhewoer.

Yerba Mate
Yerba ar werth ym marchnad awyr agored La Boqueria yn Barcelona, Catalunya

Mae Yerba mate yn golygu "perlysieuyn mate", ae daw mate yn wreiddiol o'r gair Quechua mati, gair cymhleth gydag ystyron lluosog. Mae mati yn golygu "cynhwysydd ar gyfer diod", "trwyth-ddiod o berlysiau", yn ogystal â " gourd".

Mae Yerba mate, neu Ilex paraguariensis, yn dechrau fel prysglwyn ac yna'n aeddfedu i goeden. Mae'n gallu tyfu hyd at 15 metre (49 ft) o uchder. Mae'r dail yn fytholwyrdd, 7–110 millimetre (0.3–4.3 in) o hyd a 30–55 millimetre (1.2–2.2 in) o led, gydag ymyl danheddog. Gelwir y dail yn aml yn yerba (Sbaeneg) neu erva (Portiwgaleg), y ddau yn golygu "perlysiau". Maent yn cynnwys caffein (sy'n ael ei adnabod mewn rhai rhannau o'r byd fel mateine) ac maent hefyd yn cynnwys alcaloidau xanthine ac yn cael eu cynaeafu'n fasnachol.

Mae'r blodau yn fach, yn wyrdd-gwyn, gyda phedair petal. Mae'r ffrwyth yn aeronen goch 4–6 millimetre (0.16–0.24 in) mewn diamedr.

Mae'r planhigyn yerba mate yn cael ei dyfu a'i brosesu yn Ne America, yn benodol yng ngogledd yr Ariannin (Corrientes, Misiones), Paraguay, Uruguay a de Brasil (Rio Grande do Sul, Santa Catarina, Paraná a Mato Grosso do Sul). Gelwir y rhai sy'neu tyfu yn yerbateros (Sbaeneg) neu ervateiros (Portiwgaleg Brasil).

Cyfeiriadau

Tags:

PortiwgalegRhywogaeth

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

8 MawrthJuan Antonio VillacañasOttawa County, OhioPreble County, OhioBoneddigeiddio1905Butler County, OhioRasel OckhamR. H. RobertsLabordyScotts Bluff County, NebraskaKimball County, NebraskaHocking County, OhioSiot dwad wynebRhyfelGwledydd y bydFocus WalesWashington, D.C.Mike PompeoAbigailSleim AmmarCymruAlba Calderón1403Clay County, NebraskaThomas BarkerOperaANP32AWcráinJohn DonneNuukLonoke County, ArkansasAlaskaJefferson County, NebraskaHighland County, OhioChatham Township, New JerseyPiJosé CarrerasYsglyfaethwrSwahiliGwlad GroegÀ Vos Ordres, MadameMabon ap GwynforJohn ArnoldJason AlexanderHanes TsieinaRhyfel yr Undeb Sofietaidd yn AffganistanCynghorydd Diogelwch Cenedlaethol (Yr Unol Daleithiau)Martin ScorseseSt. Louis, MissouriFeakle2019CanolrifYr Ymerodraeth OtomanaiddYmennyddPia BramStanley County, De DakotaGwainRobert WagnerFrontier County, NebraskaWarren County, OhioCass County, NebraskaWilliam BaffinGardd RHS BridgewaterFrank SinatraRhoda Holmes NichollsJames CaanEtta JamesTom Hanks491 (Ffilm)The Disappointments RoomMae Nosweithiau Niwlog Rio De Janeiro yn DdwfnDiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr🡆 More