Y Deml Yn Jeriwsalem: Unrhyw un yn yr olyniant o addoldai Iddewig ar Fynydd y Deml yn Jeriwsalem

Y Deml yn Jeriwsalem oedd unrhyw un o gyfres o strwythurau a oedd wedi'u lleoli ar Fynydd y Deml yn Hen Ddinas Jeriwsalem, safle presennol Cromen y Graig a Mosg Al-Aqsa.

Roedd y temlau olynol hyn yn sefyll yn y lleoliad hwn ac yn gweithredu fel safle o addoliad i'r hen Israeliaid a'r Iddewon yn ddiweddarach. Fe'i gelwir hefyd yn y Deml Sanctaidd Hebraeg: בֵּית־הַמִּקְדָּשׁ , Modern : Bēṯ HaMīqdaš Tiberia : Bēṯ HaMīqdāš, Ashkenazi : Bēs HaMīqdoš ; Arabeg : بيت المقدس Beit Al-Maqdis ; Ge'ez : Betä Mäqdäs ). Yr enw Hebraeg a roddir yn y Beibl Hebraeg ar gyfer yr adeilad a'i safle yw naill ai Beit YHWH, Beit HaElohim "Tŷ Dduw", neu Beiti "fy nhŷ", Beitekhah "eich tŷ" ac ati. Mewn llenyddiaeth rabinaidd, y deml yw Beit HaMikdash, "Y Tŷ Sancteiddiedig", a'r Deml yn Jeriwsalem yn unig sy'n cael ei gyfeirio ato gyda'r enw hwn.

y Deml yn Jeriwsalem
Y Deml Yn Jeriwsalem: Y Deml Gyntaf, Yr Ail Deml, Hanes diweddar
Mathteml, cyn-adeilad, holy place, biblical concept Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBryn y Deml Edit this on Wikidata
SirJeriwsalem Edit this on Wikidata
GwladIsrael Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.7778°N 35.2356°E Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadIddewiaeth Edit this on Wikidata
Y Deml Yn Jeriwsalem: Y Deml Gyntaf, Yr Ail Deml, Hanes diweddar
Teml Herod fel y mae wedi'i ddychmygu ym Model y Wlad Sanctaidd o Jeriwsalem. Ar hyn o bryd mae wedi ei leoli ger Arddangosfa Cysegr y Llyfr yn Amgueddfa Israel, Jeriwsalem.

Y Deml Gyntaf

Mae'r Beibl Hebraeg yn dweud bod y Deml Gyntaf wedi'i hadeiladu gan y Brenin Solomon. Yn ôl Llyfr Deuteronomium,, disodlodd y Deml y Tabernacl a adeiladwyd yn Anialwch Sinai dan oruchwyliaeth Moses, yn ogystal â seintwarau lleol ac allorau yn y bryniau, a throi yn yr unig le aberth Israelit ( Deuteronomium 12: 2-27 ). Cafodd y deml hon ei ysbeilio ychydig ddegawdau yn ddiweddarach gan Shoshenq I, Pharo yr Aifft .

Er y gwnaed ymdrechion i'w ail-adeiladu'n rhannol, yn 835 CC pan oedd Jehoash, Brenin Jwda, yn ail flwyddyn ei deyrnasiad yn buddsoddwyd symiau sylweddol er mwyn ei ailadeiladu. Cafodd ei ysbeilio eto gan Sennacherib, Brenin Asyria yn tua 700 CC ac fe'i dinistriwyd yn llwyr gan y Babiloniaid yn 586 CC, wrth iddynt ysbeilio'r ddinas.

Yr Ail Deml

Yn ôl Llyfr Esra, awdurdodwyd adeiladu'r Ail Deml gan Cyrus Fawr a dechreuodd yn y gwaith yn 538 CC, ar ôl cwymp yr ymerodraeth Fabilonaidd y flwyddyn flaenorol. Cafodd ei chwblhau 23 mlynedd yn ddiweddarach, ar y trydydd diwrnod o Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad Darius Fawr (12 Mawrth 515 CC), a'i gyflwyno gan y llywodraethwr Iddewig Zerubbabel. Fodd bynnag, gyda darlleniad llawn o Lyfr Esra a Llyfr Nehemeia, gwelir y pedwar gorchymyn i adeiladu'r Ail Deml, a gyhoeddwyd gan dri brenin. Cyrus yn 536 CC, a gofnodir yn y bennod gyntaf yn Esra. Nesaf, Darius I o Persia yn 519 CC, a gofnodir yn y chweched bennod o Lyfr Esra. Ac yn drydydd, Artaxerxes I o Persia yn 457 CC, sef y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ac fe'i cofnodir yn seithfed pennod Llyfr Esra. Gwnaed y pedwerydd gorchymyn gan Artaxerxes eto yn 444 CC yn ail bennod Nehemia. Hefyd, er gwaethaf y ffaith nad oedd y deml newydd mor ormodol na mawreddog â'i rhagflaenydd, roedd yn dal i gymryd lle amlwg yn nenlinell Jeriwsalem ac yn parhau i fod yn strwythur pwysig drwy gydol y cyfnod o dan frenhiniaeth Persia. Ar ben hynny, llwyddodd y Deml i osgoi cael ei dinistrio eto yn 332 CC pan wrthododd yr Iddewon gydnabod dyfodiad Alecsander Fawr o Facedonia. Yn ôl pob sôn, cafodd Alecsander ei "droi o'i ddicter" ar y funud olaf gan ddiplomyddiaeth a gwiredd craff. Ymhellach, ar ôl marwolaeth Alecsander ar 13 Mehefin 323 CC, a ymddatodiad ei ymerodraeth, daeth y Ptolemïaid i reoli Jwdea a'r Deml. O dan y Ptolemïaid, cafodd yr Iddewon lawer o ryddid sifil a buont yn byw yn fodlon o dan eu rheolaeth. Fodd bynnag, newidiodd y polisi hwn pan gafodd y fyddin Ptolemaig ei threchu yn Paniwm gan Antiochus III ym 198 CC. Roedd Antiochus eisiau Heleneiddio yr Iddewon, gan gyflwyno pantheon Groeg i mewn i'r deml. Ar ben hynny, bu gwrthryfel a gafodd ei atal yn greulon, ond ni chymerwyd unrhyw gamau pellach gan Antiochus, a phan fu farw yn Lorestán yn 187 CC, olynwyd ef gan ei fab Seleucus IV Philopator. Fodd bynnag, ni chafodd ei bolisïau erioed effaith yn Judea, gan iddo gael ei lofruddio y flwyddyn ar ôl ei esgyniad.

Antiochus IV Epiphanes oedd olynydd ei frawd hŷn i orsedd Seleucid a mabwysiadodd bolisi blaenorol ei dad o Helleneiddio cyffredinol. Gwrthododd yr Iddewon eto ac, yn ei gynddaredd, penderfynodd Antiochus ddial gyda grym. O gofio yr achosion blaenorol o anfodlonrwydd, cynddeiriogwyd yr Iddewon pan gafodd arferion crefyddol y Saboth ac enwaediad eu gwahardd yn swyddogol. Pan gododd Antiochus gerflun o Zeus yn eu teml a phan ddechreuodd offeiriaid Hellenig aberthu moch (yr aberth arferol a gynigiwyd i'r duwiau Groegaidd yn y grefydd Helenig), dechreuodd eu dicter waethygu. Pan orchmynnodd swyddog Groeg i offeiriad Iddewig berfformio aberth Helenig, lladdodd yr offeiriad (Mattathias) ef. Yn 167 CC, cefnogodd yr Iddewon Mattathias a'i bum mab mewn brwydr i ennill eu rhyddid oddi wrth yr awdurdod Seleucid. Ail-gysegrwyd y deml yn 165 CC gan fab Mattathias, Jiwdas Maccabeus, "Y Morthwyl", ac mae'r Iddewon yn dathlu'r digwyddiad hwn hyd heddiw fel rhan fawr o ŵyl Hanukkah.

Cafodd y deml ei hailgysegu o dan Jiwdas Maccabeus yn 164 CC. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, aeth Pompeius i mewn (a thrwy hynny halogi) y Cysegr Sancteiddiaf yn 63 CC, ond gadawodd y Deml yn gyfan. Yn 54 CC, ysbeiliodd Crassus drysorlys y Deml, ond bu farw y flwyddyn ganlynol ym Mrwydr Carrhae tra'n ymladd yn erbyn Parthia. Yn ôl llên gwerin, cafodd ei ddienyddio trwy gael aur tawdd wedi'i arllwys i lawr ei wddf. Pan glywodd yr Iddewon yn newyddion hwn, bu gwrthryfel arall, ond sathrwyd hwnnw yn 43 CC.

Tua 20 CC, adnewyddwyd ac ehangwyd yr adeilad gan Herod Fawr, a daeth yn adnabyddus fel Teml Herod. Cafodd ei dinistrio gan y Rhufeiniaid yn 70 OC yn ystod Rhyfel Jeriwsalem. Yn ystod gwrthryfel y Bar Kokhba yn erbyn y Rhufeiniaid yn 132-135 OC, roedd Simon bar Kochba a Rabbi Akiva eisiau ailadeiladu'r Deml, ond methodd gwrthryfel Kochba a gwaharddwyd yr Iddewon o Jeriwsalem (ac eithrio Tisha B'Av) gan yr Ymerodraeth Rufeinig. Caniataodd yr ymerawdwr Julian ailadeiladu'r Deml, ond rhoddodd daeargryn Galilea yn 363 derbyn ar bob ymdrech wedi hynny.

Ar ôl goresgyniad Jeriwsalem gan y Mwslimiaid yn y 7g, gorchmynnodd Umayyad Caliph Abd al-Malik ibn Marwan adeiladu cysegr Islamaidd, Cromen y Graig, ar Fynydd y Deml. Mae'r cysegr wedi sefyll ar y mynydd ers 691 OC; mae'r Mosg al-Aqsa, o'r un cyfnod yn fras, hefyd yn sefyll yng nghwrt y Deml.

Hanes diweddar

Cafodd Mynydd y Deml, ynghyd â Hen Ddinas Jeriwsalem, ei chipio gan Israel oddi ar Wlad Iorddonen yn 1967 yn ystod y Rhyfel Chwe Diwrnod, gan ganiatáu i Iddewon ymweld â'r safle sanctaidd unwaith eto. Roedd Gwlad Iorddonen wedi meddiannu Dwyrain Jeriwsalem a Mynydd y Deml ar unwaith pan wnaeth Israel ddatgan ei hannibyniaeth ar Fai 14, 1948. Unodd Israel Ddwyrain Jeriwsalem, gan gynnwys Mynydd y Deml, gyda gweddill Jeriwsalem yn 1980 o dan Gyfraith Jeriwsalem, er bod Penderfyniad Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig 478 yn datgan bod Deddf Jeriwsalem yn torri cyfraith ryngwladol. Mae gan y Waqf Muslim, sydd wedi'i leoli yng Ngwlad Iorddonen, reolaeth weinyddol ar y Fynydd y Deml.

Cyfeiriadau

Tags:

Y Deml Yn Jeriwsalem Y Deml GyntafY Deml Yn Jeriwsalem Yr Ail DemlY Deml Yn Jeriwsalem Hanes diweddarY Deml Yn Jeriwsalem CyfeiriadauY Deml Yn JeriwsalemArabegMosg Al-AqsaY Beibl Hebraeg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

AnilingusYr AlbanPenarlâgBukkakeEconomi Gogledd IwerddonMount Sterling, IllinoisIau (planed)St PetersburgIrene PapasAdnabyddwr gwrthrychau digidolXxAnialwchAmwythigBridget BevanDNASue RoderickAfon YstwythHirundinidaeBasauriBronnoethXxyGary SpeedCrefyddSiôr I, brenin Prydain FawrYmchwil marchnataCaerSystème universitaire de documentationYouTube24 MehefinGuys and DollsReaganomegFformiwla 17Talcott ParsonsTomwelltHenoWicidestunBannau BrycheiniogGorgiasLlundainPort TalbotRhyfelWhatsAppDulynTymhereddYnysoedd FfaröeEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885LerpwlWikipediaSafle Treftadaeth y BydEwcaryotR.E.M.EssexSix Minutes to MidnightCadair yr Eisteddfod GenedlaetholSiot dwad wynebHafanCoridor yr M4Y Chwyldro DiwydiannolY DdaearEmojiDinasGwenno HywynLidar🡆 More