Digrifwr ac actor Cymreig oedd Joseph Wyndham Calvin Thomas, neu Wyn Calvin (28 Awst 1926 – 25 Ionawr 2022).
Yn ystod ei yrfa hir, gwnaeth sawl gorchwyl: actio ar lwyfan a theledu, chwarae 'dame' mewn pantomeim, personoliaeth radio, cyflwyno sioe siarad ar deledu, siaradwr gwadd, darlithiwr, gwneud gwaith dyngarol ac ysgrifennu colofnau papur newydd Gweithiodd gyda nifer o sêr y diwydiant adloniant, gan gynnwys Harry Secombe, Bob Hope, Christopher Biggins, Shirley Bassey, Frankie Vaughan, Vic Morrow, Bud Flanagan, Roy Hudd, Max Boyce, Morecambe and Wise a Ken Dodd.
Wyn Calvin | |
---|---|
Ganwyd | Joseph Wyndham Calvin-Thomas 28 Awst 1925 Arberth |
Bu farw | 25 Ionawr 2022 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, darlledwr, diddanwr |
Gwobr/au | MBE, Urdd Sant Ioan |
Fe'i ganwyd yn Narberth yn un o wyth o blant. Pan oedd yn bum mlwydd oed, symudodd eu deulu i Gaerdydd. Aeth i Ysgol Gynradd Kitchener Road ac yna Ysgol Uwchradd Canton (yr adeilad sydd nawr yn Ganolfan Gelfyddydau Chapter).
Yn 2021 dathlodd Calvin 75 mlynedd mewn busnes sioe.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wyn Calvin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.