D. Ben Rees (David Benjamin Rees, ganwyd Awst 1937) yn gyhoeddwr Cymraeg a Saesneg, yn awdur, yn ddarlithydd ac yn weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru ers 1962 ac yn arweinydd y gymuned Gymraeg yn Lerpwl. Mae'n arwain un o bump capel Cymraeg sy'n dal i fodoli yn Lerpwl.
Ganwyd David Benjamin Rees yn Llanddewi Brefi. Sefydlwyd ei dŷ cyhoeddi bychan, Modern Welsh Publications Ltd, yn 1963 ac o 1963 i 1968 fe weithredodd o Abercynon yng Nghwm Cynon, de Cymru. Ers 1968 mae wedi gweithredu o Allerton, Lerpwl a hwn yw'r unig dŷ cyhoeddi Cymraeg sy'n dal i weithredu yn ninas Lerpwl.
Mewn cyfnod o ddeugain mlynedd fel ysgrifennwr, mae'r Dr. D. Ben Rees wedi gweithio'n bennaf mewn pedwar maes:
Heddwch a heddychiaeth
Cyhoeddwyd y bywgraffiad Mahatma Gandhi: Pensaer yr India (Mahatma Gandhi: The Architect of India) ym 1970. Mewn adolygiad yn y cylchgrawn misol, Barn, roedd y Parchedig Alwyn Roberts yn canmol y teitl am ddod â chyfraniad Mahatma Gandhi i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Y gyfrol hon oedd ysbrydoliaeth cyfres o dri llyfr ar heddychwyr Cymreig. Roedd pob cyfrol yn cynnwys portread o fentrau heddwch gweithwyr heddychlon adnabyddus gan academyddion ac awduron dan y teitlau Herio'r Byd (1980), Dal i Herio'r Byd (1983) a Dal Ati i Herio'r Byd (1988) , pob un wedi'i golygu gan D. Ben Rees.
Gweithiau
Arolwg 1965 (Golygydd) (1965);
Llyfr Gwasanaeth (Ieuenctid) (Golygydd) (1967);
Gwaith yr Eglwys (1967);
Mahatma Gandi : Pensaer yr India (1969);
Arolwg 1970 (Editor) (1970);
Arolwg (Editor) (1971);
Pymtheg o Wyr Llen yr Ugeinfed Ganrif (1972);
Dyrnaid o Awduron Cyfoes (Golygydd) (1974);
Enwogion Pedair Canrif (1400-1800) (1975);
Gweddiau'r Cristion (1976);
Cymry Adnabyddus 1951-1972 (1978); Gweddiau'r Cristion (1978);
Pregethwr y Bobl: Bywyd a Gwaith Dr Owen Thomas (1979);
Wales and its Culture (1980);
Herio'r Byd (Editor) (1980);
Cerddi eisteddfodol y diweddar Gwilym Jones (Golygydd) (1981);
Pwy yw Pwy yng Nghymru - Who's Who in Wales, Volume 3 (1983);
The Liverpool Welsh and their Religion: two centuries of Welsh Calvinistic Methodism/Cymry Lerpwl a'u crefydd: dwy ganrif o Fethodistiaeth Galfinaidd Gymreig - R. Merfyn Jones a D. Ben Rees (Golygwyd gan D. Ben Rees) (1984);
Y Cenhadwr Cyntaf o Blith Cymry Lerpwl: Josiah Hughes (1804-1840) / Josiah Hughes (1804-1840): The Reluctant Welsh Calvinistic Methodist Missionary of Malacca (2016);
The Healer of Shillong: Reverend Dr Hugh Gordon Roberts and the Welsh Mission Hospital (2016);
Cofiant Cledwyn Hughes: Un o Wyr mawr Mon a Chymru (2017);
Canmlwyddiant y Gadair Ddu, Gwyl Hedd Wyn / Black Chair Centenary (2017);
An Unlimited Life: An Autobiography (2018).
Diwylliant Cymreig
Mae'r awdur wedi ysgrifennu nifer o lyfrau yn Saesneg ac yn Gymraeg ar ysgrifenwyr.
1) Mae Wales: Culture Heritage (1982) yn gyflwyniad poblogaidd i'r wasg Gymreig a'r traddodiad eisteddfodol, ac mae'n ceisio diffinio cynnwys diwylliant Cymru.
2) Samuel Roberts (1987), cofiant o'r awdur Fictoriaidd Samuel Roberts o Lanbrynmair. Cyhoeddwyd y llyfr yn Saesneg gan Wasg Prifysgol Cymru fel rhan o gyfres 'Ysgrifenwyr Cymru', dan olygyddiaeth Dr Meic Stephens a Dr R. Brinley Jones.
3) 12 o gyfrolau pellach rhwng 1975 a 2006, sy'n mynd i'r afael ag Anghydffurfiaeth Cymru, Astudiaethau Fictorianaidd a hanes cymuned Gymraeg Lerpwl. - Mae D. Ben Rees yn cael ei gydnabod fel yr awdurdod blaenllaw ar Hanes Cymry Lerpwl ers 1984 pan wnaeth ef a'r Athro R. Merfyn Jones gyd-ysgrifennu The Liverpool Welsh and their Religion. Roedd ei lyfr diweddaraf yn seiliedig ar gymuned Gymraeg Ellesmere Port (2012).
Diwinyddiaeth
Mae Dr. D Ben Rees wedi dod yn ysgolhaig cydnabyddedig ar John Calvin (1509-1564) ac o Galfiniaethiaeth ers cyhoeddi pedwar llyfr, tri yn yr iaith Gymraeg, ar John Calvin a'i Ddisygblion Cymreig yn ystod y cyfnod 2008 a 2012. Cyflwynodd y Ddarlith Davies ar John Calvin a'r Cyfundeb yng Nghynulliad Cyffredinol ei enwad yn Llanbedr Pont Steffan yn 2008. Cyhoeddwyd y ddarlith bellach fel Y Gwron o Genefa: John Calfin a'i ddylanwad (Caernarfon, 2012).
Cyfeiriadau
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article D. Ben Rees, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.