Difyrrwr (canwr a chomedïwr) o Abertawe oedd Syr Harold Donald Secombe (8 Medi 1921 - 11 Ebrill 2001).
Cafodd ei fagu yn Abertawe, yng nghyffiniau'r dociau a gweithiodd fel clerc yn y gwaith dur, gan ganu yng nghôr yr eglwys. Tra'n filwr ym myddin Lloegr yng Ngogledd Affrica a'r Eidal, cafodd y cyfle i ddiddannu. Ar ôl y rhyfel bu'n gweithio yn y "Windmill Theatr", Llundain.
Harry Secombe | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1921 St. Thomas, Abertawe |
Bu farw | 11 Ebrill 2001 Guildford |
Label recordio | Philips Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Math o lais | tenor |
Plant | Andy Secombe |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor |
Roedd yn ddarlledwr radio a theledu amlwg iawn ac yn aelod o griw'r Goon Show drwy gydol y 1950'au.
Cyfarfu Secombe ei ddarpar-wraig Myra Joan Atherton yn neuadd ddawns Pier Y Mwmbwls yn 1946. Roedd y ddau yn briod o 1948 hyd ei farwolaeth. Cawsant pedwar o blant:
Bu farw ei weddw Myra ar 7 Chwefror 2018 yn 93 mlwydd oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Harry Secombe, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.