Digrifwr a chanwr-cyfansoddwr oedd Syr Kenneth Arthur Dodd OBE (8 Tachwedd 1927 – 11 Mawrth 2018).
Roedd yn enwog am ei ddannedd sy'n ymwthio allan, gwallt gwyllt, ei ddwstwr pluog (neu ei "ffon goglais" fel y cyfeiria ato), a'i ymadroddion ffraeth. Yn bennaf, roedd ei berfformiadau'n dilyn traddodiad y neuaddau gerddoriaeth traddodiadol, er ei fod wedi ymddangos mewn ambell ddrama yn y gorffennol, yn cynnwys chwarae rhan Malvolio yn nrama Shakespeare Twelfth Night ar lwyfan yn Lerpwl ym 1971. Roedd wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau'n fyd-eang.
Ken Dodd | |
---|---|
Ganwyd | Kenneth Arthur Dodd 8 Tachwedd 1927 Knotty Ash |
Bu farw | 11 Mawrth 2018 Knotty Ash |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, digrifwr stand-yp, sgriptiwr, canwr, ysgrifennwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, one-line joke, neuadd gerddoriaeth |
Priod | Unknown |
Gwobr/au | OBE, Marchog Faglor |
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn faciwî o Lerpwl a daeth i fyw ar fferm ym Mhenmachno lle dywedir iddo ddysgu ychydig o Gymraeg.
Fe'i ganwyd yn ardal Knotty Ash, Lerpwl lle bu'n byw drwy gydol ei oes a lle bu farw. Perfformiodd ei sioe olaf ar 28 Rhagfyr 2017, ond cafodd driniaeth yn yr ysbyty am haint yr ysgyfaint yn Ionawr 2018 a canslwyd weddill ei ddyddiadau perfformio am 2018. Priododd Dodd ei bartner ers 40 mlynedd, Anne Jones, ar 9 Mawrth 2018 yn eu tŷ yn Knotty Ash. Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach, yn 90 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ken Dodd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.