Y Nemzeti Bajnokság (Ynganiad Hwngareg:ˈnɛmzɛti ˈbɒjnokʃaːɡ, Pencampwriaeth Genedlaethol) yw cynghrair pêl-droed proffesiynnol Hwngari.
Sefydlwyd y Gynghrair yn 1901. Ei enw cyfredol yw OTP Bank Liga ar ôl y prif noddwyr. Gweinyddir hi o dan adain Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari. Mae'r gynghrair wedi ei marcio fel 36eg yn rhestr safonnau UEFA o gynghreiriau cenedlaethol Ewrop.
Gwlad | Hwngari |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 1901 |
Nifer o dimau | 12 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Nemzeti Bajnokság II |
Cwpanau | Magyar Kupa |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA |
Pencampwyr Presennol | Ferencváros (33 teitl) (2021–22, Nemzeti Bajnokság I) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Ferencváros (33 teitl) |
Partner teledu | Magyar Televízió |
Gwefan | Magyar Labdarúgó Szövetség |
2021–22 Nemzeti Bajnokság I |
Yn gyfredol gwelir 12 tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ddwywaith y tymor. Bydd y pencampwyr yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA tra fod yr ail a'r trydydd tîm ynghŷd ag enillydd Cwpan Hwngari yn cystadlu yn rownd rhagbrofol Cynghrair Europa UEFA. Bydd y ddau glwb ar waelod y gynghrair yn cwympo i'r Nemzeti Bajnokság II, yr ail gynghrair gydag enillydd yr NB2 a'r tîm sy'n ail yn esgyn i'r Nemzeti Bajnokság.
Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf yn 1901 rhwng BTC, MUE, FTC, Műegyetemi AFC a Budapesti SC, gyda Budapesti'n ennill y gynghrair yn y tymor cyntaf.[3] Yn ystod yr 1910au a'r 1920au dominyddwyd y bencampwriaeth gan Ferencváros a MTK. ac yn yr 1930au daeth tîm arall, Újpest FC (nad oedd yn rhan o ddinas Budapest ar y pryd) yn un o'r prif dimau. Gelwir y gemau rhwng y tri thîm yma yn Darbi Budapest.
Yn wahanol i sawl gwlad arall yn Ewrop, parhaodd y Nemzeti Bajnokság i gystadlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd hyn oherwydd nad oedd Hwngari yn rhyfela yn erbyn yr Almaen Natsiaidd ac na fu prin brwydro o fewn y wlad nes 1944. Oherwydd cefnogaeth yr Almaen, llwyddodd Hwngari i ad-feddiannu peth o'r tiroedd a gollwyd ganddynt yng Nghytundeb Trianon a gydag hynny ail-ymunodd timau fel Nagyvárad a Kolozsvár. Daeth hyn i ben wedi'r Almaen golli'r Rhyfel a Hwngari golli'r tiroedd hynny i Slofacia, Rwmania ac Iwcrain (Undeb Sofietaidd).
Gwanhawyd dominyddiaeth Ferencváros a MTK yn yr 1950au a daeth tîm Honvéd ("Byddin") i'r brig gyda chwaraewyr byd-enwog fel Puskás, Bozsik, Czibor a Budai. Dyma'r chwaraewyr a chwaraeodd yn ffeinal Cwpan y Byd Pêl-droed 1954. Yn yr 1950au enillodd Honvéd y gynghrair bump gwaith a'r tîm oedd asgwrn cefn tîm enwog y Mighty Magyars.
Diddymwyd y Gynghrair yn 1956 oherwydd Gwrthryfel Hwngari yn erbyn yr Undeb Sofietaidd. Er mai Honvéd oedd ar frig y gynghrair wedi 21 gêm ni orffennwyd byth mo'r tymor. Yn ystod tymor gyntaf Cwpan Ewrop (1955-56), cyrhaeddodd MTK Budapest rownd y chwarteri ac yn 1957-58 cyrhaeddodd Vasas Budapest y rownd gyn-derfynol. Enillodd Vasas bedair pencampwriaeth yn yr 1960s.
Gyda chwymp system gomiwnyddol Hwngari yn 1989 collodd timau pêl-droed gefnogaeth y wladwriaeth. Canlyniad hynny oedd problemau ariannol mawr sy'n dal yn bla ar bêl-droed y wlad. Daliai'r tri mawr, Ferencváros, MTK, Újpest, i ddominyddu'r 1990au ond effeithiodd y sefyllfa ariannol ar lwyddiant timau Hwngari y tu allan i'r wlad. Gallai clybiau Hwngari chwaith ddim cystadlu gyda thynfa ariannol clybiau mawr tramor chwaith. Cafodd dyfarniad Bosman gan yr Undeb Ewropeaidd effaith fawr hefyd gan alluogi i chwaraewyr Hwngareg adael y wlad am gyflogau brasach.
Yn ystod yr 2000au daeth timau newydd o du allan i Budapest i dominyddu'r gynghrair. Mae'r timau yma'n cynnwys Bozsik's Zalaegerszeg, Debrecen, Videoton o Székesfehérvár a Győr.
Newidiwyd enw'r Gynghrair yn rheolaidd ers cwymp comiwnyddiaeth a 1997 yn benodol. Defnyddir enwau'r prif noddwyr fel enw'r Gynghrair:
Nodir y clybiau gan ei henwau diweddaraf, heb gynnwys enw noddwyr. Yr un eithriad yw Nagyváradi AC a enillodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a sydd nawr yn ddinas yn Rwmania ac enw'r clwb yw Clubul Atletic Oradea.
Clwb | Teitl | Subtítulos | Blwyddyn |
---|---|---|---|
Ferencváros (1) | 1903, 1905, 1907, 1909, 1910, 1911, 1912, 1913, 1926, 1927, 1928, 1932, 1934, 1938, 1940, 1941, 1949, 1963-1, 1964, 1967, 1968, 1976, 1981, 1992, 1995, 1996, 2001, 2004, 2016, 2019 | ||
MTK Budapest (2) | 1904, 1908, 1914, 1917, 1918, 1919, 1920, 1921, 1922, 1923, 1924, 1925, 1929, 1936, 1937, 1951, 1953, 1958, 1987, 1997, 1999, 2003, 2008 | ||
Újpest FC (3) | 1930, 1931, 1933, 1935, 1939, 1945, 1946, 1947, 1960, 1969, 1970, 1971, 1972, 1973, 1974, 1975, 1978, 1979, 1990, 1998 | ||
Honvéd Budapest (4) | 1950-1, 1950-2, 1952, 1954, 1955, 1980, 1984, 1985, 1986, 1988, 1989, 1991, 1993, 2017 | ||
Debreceni VSC | 2005, 2006, 2007, 2009, 2010, 2012, 2014 | ||
Vasas Budapest SC | 1957, 1961, 1962, 1965, 1966, 1977 | ||
Győri ETO FC (5) | 1963-2, 1982, 1983, 2013 | ||
Csepel SC | 1942, 1943, 1948, 1959 | ||
Videoton FC | 2011, 2015, 2018 | ||
Budapesti TC † | 1901, 1902 | ||
Dunakanyar-Vác FC | 1994 | ||
Nagyváradi AC | 1944 | ||
Dunaferr SE † | 2000 | ||
Zalaegerszegi TE | 2002 | ||
FC Tatabánya | ----- | ||
Magyar Atlétikai Club | ----- | ||
Magyar Úszó Egyesület † | ----- | ||
Budapesti Postás SE | ----- | ||
Törekvés SE | ----- | ||
Pécsi MFC | ----- | ||
Budapesti VSC | ----- | ||
Paksi SE | ----- |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Uwch Gynghrair Hwngari, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.