Mae The Office yn gyfres deledu gomedi Americanaidd a ddarlledwyd ar NBC o 24 Mawrth 2005 hyd 16 Mai 2013.
The Office | |
---|---|
Genre |
|
Seiliwyd ar | The Office gan Ricky Gervais Stephen Merchant |
Datblygwyd gan | Greg Daniels |
Yn serennu |
|
Cyfansoddwr thema | Jay Ferguson |
Gwlad | United States |
Iaith wreiddiol | English |
Nifer o dymhorau | 9 |
Nifer o benodau | 201 (rhestr penodau) |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol |
|
Sinematograffi |
|
Gosodiad camera | Single-camera |
Hyd y rhaglen | 22–42 minutes |
Cwmni cynhyrchu |
|
Dosbarthwr | NBCUniversal Television Distribution |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | NBC |
Fformat y llun | 1080i (16:9 HDTV) |
Fformat y sain | Dolby Digital |
Darlledwyd yn wreiddiol | Mawrth 24, 2005 | – Mai 16, 2013
Cronoleg | |
Sioeau cysylltiol | The Office (UK) |
Dolennau allanol | |
Gwefan |
Mae'n addasiad o'r rhagln BBC wreiddiol o'r un enw. Cafodd The Office ei addasu ar gyfer cynulleidfa Americanaidd gan Greg Daniels, ysgrifennydd sgript Saturday Night Live, King of the Hill, a The Simpsons. Cafodd ei gyd-gynhyrchu gan gwmni cynhyrchu Daniels Deedle-Dee Productions, a Reveille Productions (Shine America), mewn cyd-weithrediad gydag Universal Television. Yr uwch gynhyrchydd gwreiddiol oedd Greg Daniels, Howard Klein, Ben Silverman, Ricky Gervais, a Stephen Merchant, gyda mwy yn cael dyrchafiad mewn cyfresi eraill.
Mae'r gyfres yn portreadu bywyd bob dydd gweithwyr mewn swyddfa yn Scranton, Pennsylvania, cangen o'r cwmni papur ffuglenol Dunder Mifflin. I greu teimlad o raglen ddogfen go iawn, un camera sy'n cael ei ddefnyddio, heb gynulleidfa stiwdio na chwerthin ffug. Cafodd y sioe ei ddarlledu am y tro cyntaf ar NBC a redodd am naw cyfres a 201 pennod. Steve Carell, Rainn Wilson, John Krasinski, Jenna Fischer, a B. J. Novak oedd prif gast y rhaglen ar y dechrau, gyda llawer o newidiadau i'r cast yn ystod y 9 cyfres.
Cafodd cyfres cyntaf The Office adolygiadau amrywiol, ond cafodd y pedwar cyfres oedd i ddilyn ganmoliaeth ysgubol gan adolygwyr teledu. Cafodd y cyfresi yma eu cynnwys mewn llawer o restrau arbennig gan adolygwyr, gan ennill nifer o wobrau gan gynnwys pedwar Primetime Emmy Awards, sy'n cynnwys Outstanding Comedy Series yn 2006. Tra bod cyfresi hwyrach eu barnu bod y safon wedi gostwng, cafodd y gyfres olaf ei ysgrifennu gan ysgrifenwyr cynnar y rhaglen ac fe dderbyniodd y rhaglen adolygiadau positif.
Yn Rhagfyr 2017 roedd adroddiadau yn honni bod NBC yn ystyried adfywio'r gyfres. Roedd am redeg yn 2018-19 ac am ddangos cymysgfa o gast gwreiddiol (heb Steve Carell) a chast newydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article The Office (cyfres teledu UDA), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.