Mae'r National Broadcasting Company (NBC) yn rwydwaith deledu Americanaidd.
Lleolir eu pencadlys yn yr Adeilad GE yng Nghanolfan Rockefeller yn Ninas Efrog Newydd. Weithiau cyfeirir at NBC fel Rhwydwaith y Paun oherwydd logo'r cwmni sy'n edrych fel plu paun.
Enghraifft o'r canlynol | rhwydwaith teledu, rhwydwaith radio |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 19 Mehefin 1926 |
Perchennog | NBCUniversal |
Sylfaenydd | RCA Corporation, David Sarnoff |
Gweithwyr | 7,000 |
Rhiant sefydliad | NBCUniversal, RCA Corporation, Radio Corporation of America |
Pencadlys | 30 Rockefeller Plaza, NBC Tower, 10 Universal City Plaza, Stamford, Connecticut |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://nbc.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffurfiwyd y cwmni ym 1926 gan Gorfforaeth Radio America ac NBC oedd y rhwydwaith ddarlledu mawr cyntaf yn yr Unol Daleithiau. Ym 1986, trosglwyddwyd rheolaeth o NBC i General Electric (GE) pan brynodd GE Gorfforaeth Radio America am $6.4 biliwn. Ar ôl hyn, uwch gyfarwyddwr NBC oedd Bob Wright nes iddo ymddeol a throsglwyddo'r awennau i Jeff Zucker. Ar hyn o bryd, mae'r rhwydwaith yn rhan o gwmni cyfryngol NBC Universal, sy'n rhan o General Electric a Vivendi.
Amcangyfrifir fod NBC ar gael mewn 112 miliwn o gartrefi, neu 98.6% o'r Unol Daleithiau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article NBC, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.