Mae Swlŵeg (isiZulu yn Swlŵeg) yn iaith a siaredir yn Affrica Ddeheuol (yn arbennig yn Ne Affrica, ond hefyd yn Gwlad Swasi a Mosambic, yn bennaf gan grŵp ethnig y Swlŵiaid).
Mae'n perthyn i deulu ieithyddol yr ieithoedd Niger-Congo ac is-deulu’r ieithoedd Bantŵ.
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Ieithoedd Nguni, Zunda |
Enw brodorol | isiZulu |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | zu |
cod ISO 639-2 | zul |
cod ISO 639-3 | zul |
Gwladwriaeth | Lesotho, Mosambic, De Affrica |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Pan South African Language Board |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae tri phrif fath o gytsain glec yn Swlŵeg sy'n cyfateb yn fras i q /ǃ/, c /ǀ/ a x /ǂ/. Un o ieithoedd swyddogol De Affrica ydy hi. Deellir Swlŵeg gan siaradwyr Xhosa a Swati hefyd, oherwydd i'r ieithoedd hynny berthyn i grwp ieithoedd Nguni yr ieithoedd Bantŵ. Tua 10 miliwn o bobl sydd yn medru Swlŵeg yn Ne Affrica.
Ceir tafodiaith neu greoliaith sy'n seiliedig ar ramadeg Swlŵeg yn maestrefi talaith Gauteng ac yn enwedig Soweto. Ei enw yw isiCamtho. Cyfeirir ato hefyd, weithiau, gan y term sydd wedi dod yn generic i ddatblygiadau tafodiaith o'r fath fel Tsotsitaal.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Swlŵeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.