Gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Blaid Geidwadol yw Stephen Crabb (ganwyd 20 Ionawr 1973).
Mae'n cynrychioli etholaeth Preseli Penfro fel Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin San Steffan ers 2005 a roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng Gorffennaf 2014 a Mawrth 2015.
Y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb | |
---|---|
Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau | |
Yn ei swydd 19 Mawrth 2016 – 14 Gorffennaf 2016 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenydd | Iain Duncan Smith |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru | |
Yn ei swydd 15 Gorffennaf 2014 – 19 Mawrth 2016 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenydd | David Jones |
Olynydd | Alun Cairns |
Gweinidog Swyddfa Cymru | |
Yn ei swydd 4 Medi 2012 – 15 Gorffennaf 2014 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenydd | David Jones |
Olynydd | Alun Cairns |
Aelod Seneddol dros y Preseli | |
Yn ei swydd | |
Dechrau 5 Mai 2005 | |
Rhagflaenydd | Jackie Lawrence |
Mwyafrif | 4,605 (11.6%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Inverness, Yr Alban | 20 Ionawr 1973
Plaid wleidyddol | Blaid Geidwadol |
Gŵr neu wraig | Béatrice Monnier |
Plant | 2 |
Alma mater | Prifysgol Bryste Ysgol Fusnes Llundain |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Ym Mai 2009 hawliodd £8,049 am ei ail gartref gan ei wario ar fflat yn Llundain. Gwerthodd hwnnw am elw a hawliodd gostau am gartref roedd yn ei brynnu ym Mhenfro. Nododd mai ei brif gartref oedd ystafell yn nhŷ cyfaill iddo.
Ganwyd Crabb yn Inverness, yr Alban gydag un rhiant yn Albanwr a'r llall yn Gymraes. Magwyd ef a'i ddau frawd gan ei fam ar ystâd o dai cyngor ym Mhenfro.
Ym Mhrifysgol Bryste y cyfarfu a'i wraig Béatrice. ac oddi yno aeth i Ysgol Fusnes Llundain ble y graddiodd gydag MBA. Yr un pryd, astudiodd Ffrangeg gyda'r Brifysgol Agored.
Wedi iddo adael Prifysgol Bryste, cychwynodd weithio i elusen National Council for Voluntary Youth Services gan weithio'n rhan amser fel gweithiwr ieuenctid yn ne Llundain. Yn 1998 cychwynodd weithio yn y London Chamber of Commerce gan gael ei benodi i swydd ymgynghorydd marchnata yn 2002.
Ymgeisodd am swydd arweinydd y Blaid Geidwadol yn Mehefin 2016 gan dynnu allan er mwyn cefnogi Theresa May pan ddaeth yn amlwg nad oedd am gael y pleidleisiau angenrheidiol. Ar 14 Gorffennaf 2016 wrth i'r prif weinidog newydd Theresa May ad-drefnu'r cabinet, fe ymddiswyddodd fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau "er lles ei deulu" yn dilyn adroddiadau papur newydd am ei fywyd personol yn yr wythnosau cynt.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Stephen Crabb, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.