Olyniad gerddorol (sequence) neu emyn sy'n rhan o litwrgi traddodiadol yr Eglwys Gatholig Rufeinig ar gyfer y Pasg yw'r Stabat Mater Dolorosa, neu'r Stabat Mater.
Mae ei awduraeth yn ansicr, ond cred rhai ysgolheigion mai'r bardd ac ysgolhaig Eidalaidd Jacopone da Todi, aelod o Urdd Sant Ffransis, oedd yr awdur. Mae'r Stabat Mater yn disgrifio dolur Mair Forwyn wrth droed y Groes (ystyr y teitl, sy'n dod o linell gyntaf yr emyn, yw "Safai'r Fam ddolurus").
Cân i'w llafarganu yn y dull canoloesol yn yr eglwys oedd y Stabat Mater yn wreiddiol, ond dros y canrifoedd mae sawl cyfansoddwr wedi ei haddasu, yn cynnwys Giovanni Pierluigi da Palestrina, Giovanni Battista Pergolesi, Schubert, Haydn, Rossini (ffurf operatig hir), Verdi, Dvořák a Hristo Tsanoff (2007).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Stabat Mater Dolorosa, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.