Rhyfel a ymladdwyd yn yr Eidal rhwng 91 CC a 88 CC oedd Rhyfel y Cynghreiriaid (Lladin: Bellum soci(or)um neu Marsicum bellum).
Ymladdwyd y rhyfel rhwng Gweriniaeth Rhufain ar un ochr a nifer o bobloedd eraill yr Eidal oedd wedi bod mewn cynghrair a Rhufain ar yr ochr arall.
Ers i Rufaibn ddechrau ymestyn ei grym dros yr Eidal, roedd wedi gwneud cytundebau ar wahân a gwahanol civitates, gan eu hystyried fel cynghreiriaid (socii). Roedd gan y gynghreiriaid fesur helaeth o hunanlywodraeth, ond roedd rhaid iddynt gyflenwi milwyr i fyddinoedd Rhufain. Tyfodd anfodlonrwydd ar y drefn yma ymhlith y cynghreiriaid, a ddymunai ddod yn ddinasyddion Rhufeinig. Yn 91 CC, rhoddodd y tribunus plebis Marcus Livius Drusus minor gynnig ymlaen i roi dinasyddiaeth Rufeinig i'r socii, ond llofruddiwyd ef gan wrthwynebwyr y syniad cyn i'r cais lwyddo. Gwrthryfelodd y socii, gan greu cynghrair gyda Corfinium fel prifddinas.
Bu ymladd caled, ond llwyddodd Rhufain i sicrhau heddwch trwy ymestyn dinasyddiaeth Rhufeinig yn raddol, yn gyntaf i'r cynghreiriaid oedd wedi aros yn deyrngar i Rufain trwy'r Lex Iulia yn 90 CC. Yn 89 CC, rhoddodd y Lex Plautia Papiria ddinasyddiaeth Rufeinig i bawb yn yr Eidal i'r de o afon Po, ar yr amod eu bod yn rhoi gorau i'r ymladd o fewn dau fis. Rhoddodd y Lex Pompeia ddinasyddiaeth Ladin i bawb yn yr Eidal i'r gogledd o afon Po.
Llwyddodd hyn i roi diwedd ar yr ymladd yng ngogledd yr Eidal, ond parhaodd y Samnitiaid i ymladd hyd 82 CC. Yn y diwedd, gorchfygwyd hwy gan Lucius Cornelius Sulla.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhyfel y Cynghreiriaid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.