1989–92 Rhyfel Cartref Affganistan

Rhyfel cartref a ymladdwyd rhwng Gweriniaeth Ddemocrataidd Affganistan a gwrthryfelwyr y mujahideen oedd Rhyfel Cartref Affganistan (1989–92) a oedd yn barhad o'r rhyfel Sofietaidd a ddaeth i ben ym 1989.

Wedi enciliad yr Undeb Sofietaidd, gadawyd Affganistan mewn anhrefn ac adfail, ac heb ddatrysiad i'r gwrthdaro rhwng y llywodraeth a'r gwrthryfelwyr. Unwaith yr enciliodd y lluoedd Sofietaidd o'r wlad, cyhoeddwyd argyfwng cenedlaethol gan yr Arlywydd Mohammad Najibullah. Er nad oedd presenoldeb milwrol bellach gan yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan, parhaodd y Cremlin i ddarparu cyflenwadau milwrol ac economaidd i lywodraeth Najibullah, yn ogystal â bwyd a thanwydd trwy gydol gaeafau 1990 a 1991.

Llwyddodd Najibullah i afael ar rym am dair blynedd wedi enciliad y Sofietiaid, er na enillai cefnogaeth y bobl yn llwyr. Yn sgil diddymu'r Undeb Sofietaidd yn niwedd 1991, gwrthododd Ffederasiwn Rwsia werthu cynnyrch olew i Affganistan, gan atal bwyd a thanwydd rhag cyrraedd y wlad yn ystod y gaeaf. Gwrthgiliodd y Cadfridog Abdul Rashid Dostum, gan ymgynghreirio ag Ahmed Shah Massoud a Sayed Jafar Naderi. O'r diwedd, cwympodd llywodraeth Najibullah a chipiwyd y brifddinas Kabul gan luoedd Dostam a Massoud ar 18 Ebrill 1992.

Yn debyg i'r rhyfel yn Affganistan trwy gydol y 1980au, rhyfel trwy ddirprwy oedd hwn a oedd yn gosod y bloc comiwnyddol yn erbyn Unol Daleithiau America a'i cynghreiriaid yn ystod blynyddoedd olaf y Rhyfel Oer. Derbyniodd y mujahideen gymorth oddi ar yr Unol Daleithiau, Pacistan, a Sawdi Arabia, er mwyn gwrthbwyso grym Sofietaidd yng Nghanolbarth Asia. Buont hefyd yn derbyn cymorth oddi ar Iran, a oedd yn elyniaethus i'r Sofietiaid a'r Americanwyr fel ei gilydd. Olynwyd y gwrthdaro gan Ryfel Cartref Affganistan (1992–96).

Cyfeiriadau

Tags:

AffganistanRhyfel cartrefRhyfel yr Undeb Sofietaidd yn AffganistanYr Undeb Sofietaidd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Bugail Geifr LorraineGoogleWoody GuthrieOsama bin LadenEwropAneirin KaradogMarylandGwleidyddiaeth y Deyrnas UnedigDynes2012Sefydliad WicifryngauAfon DyfiGareth BaleEl NiñoIeithoedd BrythonaiddROMMeirion EvansCernywiaidIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanMaricopa County, ArizonaInterstellarPafiliwn PontrhydfendigaidUsenetWhatsAppCynnwys rhyddWhitestone, DyfnaintDeddf yr Iaith Gymraeg 1967Beauty ParlorContactTrwythHamletLlygreddGwamOlwen ReesGeneteg9 MehefinVerona, PennsylvaniaTîm pêl-droed cenedlaethol LloegrAfon ConwyTudur OwenAnton YelchinGwyrddSgitsoffreniaFaith RinggoldRwsiaMacOS14 GorffennafL'homme De L'isleMerched y WawrIechydWaxhaw, Gogledd CarolinaGwladwriaethSex and The Single GirlLlundainDonald TrumpMarion HalfmannYr ArianninDreamWorks PicturesAffricaY Mynydd Bychan🡆 More