See text
Rosa canina | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Rosaceae |
Genws: | Rosa |
Rhywogaeth: | R. canina |
Enw deuenwol | |
Rosa canina Carl Linnaeus | |
Cyfystyron | |
Planhigyn blodeuol sy'n frodorol o Hemisffer y Gogledd yw Rhosyn gwyllt sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Rosaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Rosa canina a'r enw Saesneg yw Dog-rose. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Rhosyn Coch Gwyllt, Breila, Breilw, Ciros, Egroes, Egroeswydd March y Mieri, Marchiaren, Merddrain, Mieri Ffrenig, Ogfaenllwyn, Rhos y Cŵn Coch, Rhosyn Gwyllt, Rhosyn y Cŵn.
Mae'r teulu Rosaceae yn perthyn i'r genws Rosa (rhosyn) fel ag y mae'r cotoneaster a'r eirinen. Prif nodwedd y teulu yw ei ffrwythau amrywiol a phwysig i economi gwledydd. Ceir 5 sepal, 5 petal ac mae'r briger wedi'u gosod mewn sbeiral sy'n ffurfio llestr tebyg i gwpan o'r enw hypanthiwm.
Arferid casglu’r egroes, (mwcog, bochau cochion neu ffrwythau’r rhosyn gwyllt) yn ystod yr ail ryfel byd pan fyddai orenau (ffynhonnell amgen Fitamin C) yn brin.
Cofnodwyd yn llyfr log ysgol gynradd Rhosneigr:
Ac yn llyfr log Ysgol Earle Webster Rd School, Llandegfan, Ynys Môn:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhosyn gwyllt, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.