Rhagargoelion honedig o drychineb Aberfan oedd rhagargoelion Aberfan.
Ar 21 Hydref 1966 lladdwyd 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant, gan dirlithriad o domen lo ym mhentref Aberfan yng Nghymru. Yn yr wythnosau wedi'r drychineb honnodd nifer o bobl i gael rhagdeimladau mewn breuddwydion a gweledigaethau.
Cafodd y rhagargoelion eu casglu a'u hastudio gan Dr J. C. Barker, seiciatrydd o Lundain. Yn syth wedi'r drychineb, cyhoeddodd Peter Fairley, gohebydd gwyddoniaeth yr Evening Standard, gais gan Barker am adroddiadau o ragargoelion. Cafodd erthygl Fairley ei syndicetio i bapurau eraill. Derbyniodd Barker 76 o atebion gan bobl ledled Prydain, y rhan fwyaf ohonynt gan fenywod (5 menyw i bob dyn), ac o oed 10 i 73. Yn ôl dadansoddiad Barker, roedd 16 ohonynt yn ddiwerth, ac roedd angen rhagor o ymchwiliad i ddilysu'r 60 arall. O'r 60 o honiadau hyn, roedd 22 ohonynt yn gallu rhoi enwau tystion i ategu natur ragwybodol y profiad, hynny yw i dystio glywed y rhagargoel gan y person a hynny cyn i'r drychineb ddigwydd. Rhannodd Barker y honiadau i dri chategori: "breuddwydion", "clirwelediad mewn cyfarfodydd ysbrydegol", ac "anghysur cyn y drychineb".
Cafodd Eryl Mai Jones, merch deg mlwydd oed, freuddwyd a ddisgrifiodd i'w mam y diwrnod cyn y drychineb: "Es i'r ysgol ac nid oedd ysgol yna. Roedd rhywbeth du wedi dod i lawr drosti." Pythefnos cyn y drychineb, dywedodd wrth ei mam nad oedd yn ofni marw, ac y bydd gyda'i dau ffrind ysgol, Peter a June. Cafodd Eryl ei chladdu rhwng Peter a June yn yr angladd torfol o'r plant ysgol a fu farw. Cafodd un fenyw hunllef a oedd yn cynnwys plentyn a rhywbeth du, tonnog enfawr. Cafodd menyw arall weledigaeth o fynydd du symudol yn claddu plant. Yn ôl Mrs H o Barnstaple, breuddwydiodd am nifer o blant mewn ddwy ystafell y noson cyn y drychineb.
Daeth Barker i gredu y gall rhagargoelion fod o ddefnydd wrth atal trychinebau yn y dyfodol a helpodd i sefydlu Biwro Rhagargoelion Prydain ym 1967.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhagargoelion Aberfan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.