Pentref yng nghymuned Ynysowen, bwrdeistref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Aberfan (hefyd Aber-fan).
Saif tua 6.4 km i'r de o Ferthyr Tydfil. Rhed Afon Taf yn ogystal â Llwybr Taf (sy'n dirwyn o Droed-y-rhiw, i Dreharris) trwy'r pentref.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysowen |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6917°N 3.3456°W |
Cod OS | SO070002 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au | Gerald Jones (Llafur) |
Ceir dwy ysgol yma: Ysgol Gynradd Ynysowen ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).
Ddydd Gwener, 21 Hydref 1966, am 9.15 y bore, llithrodd tomen lo o weithfa rhif 7 i lawr llethrau'r bryniau uwchlaw'r pentref gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas ac ugain o dai a ffermdy. Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant, gyda'r mwyafrif ohonynt rhwng 7 a 10 oed. Lladdwyd pump athro yn y drychineb. Dim ond cnewllyn o ddisgyblion a oroesodd y digwyddiad.
Roedd y domen lo yn cynnwys creigiau o bwll glo lleol. Roedd y disgyblion newydd adael y gwasanaeth boreuol yn y neuadd, lle buont yn canu "All Things Bright and Beautiful", am eu hystafelloedd dosbarth, pan glywsant sŵn mawr y tu allan. Roedd yr ystafelloedd dosbarth ar ochr y tirlithriad.
Rhoddwyd y bai am y drychineb ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dribiwnlys, ac fe'i orchmynnwyd i dalu iawndal o £500 am bob plentyn i deuluoedd ag dyma yn marw. Darganfuwyd fod y tomen lo wedi bod yn suddo ers misoedd, ond ni wnaethpwyd dim am y mater. Dywedwyd fod dwr wedi cynyddu yn y pentwr o wastraff ar ben y mynydd gan achosi i'r gwastraff lifo i lawr y mynydd.
Ar ôl nifer o apeliadau, defnyddiwyd rhan o'r gronfa i wneud gweddill y tip glo yn ddiogel ac osgôdd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y gost lawn o wneud hyn. Ad-dalodd llywodraeth y Blaid Lafur £150,000 ym 1997, ond pe bai chwyddiant wedi cael ei ystyried byddai'r swm hwn yn agos i £2 miliwn.
Caewyd y pwll glo ym 1989.
Ym mis Chwefror 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad gyfraniad o £2 filiwn i Gronfa Goffa Trychineb Aberfan, fel rhyw fath o iawndal am yr arian a gafodd y llywodraeth yn y cyfnod yn union ar ôl y drychineb.
Trefi
Merthyr Tudful · Treharris
Pentrefi
Abercannaid · Aberfan · Bedlinog · Cefn Coed y Cymer · Dowlais · Heolgerrig · Y Faenor · Mynwent y Crynwyr · Pentrebach · Pontsticill · Pontygwaith · Trelewis · Troed-y-rhiw · Ynysowen
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aberfan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.