Mae Reinhold Andreas Messner (ganed 17 Medi 1944) yn fynyddwr Eidalaidd sy'n cael ei ystyried yn fynyddwr mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth.
Reinhold Messner | |
---|---|
Ganwyd | Reinhold Andreas Messner 17 Medi 1944 Brixen |
Dinasyddiaeth | yr Eidal |
Galwedigaeth | fforiwr, gwleidydd, ysgrifennwr, dringwr mynyddoedd, cyfarwyddwr ffilm |
Swydd | Aelod Senedd Ewrop |
Plaid Wleidyddol | Federation of the Greens |
Tad | Josef Messner |
Mam | Maria Messner |
Priod | Uschi Demeter, Sabine Stehle, Diane Schumacher |
Partner | Nena Holguin |
Plant | Magdalena Messner, Simon Messner, Anna Juditha Messner, Làyla Messner |
Gwobr/au | Medal y Noddwr, Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Gwobr Romy, Courage Award, Lifetime Piolet d'Or |
Gwefan | https://reinhold-messner.de/ |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Ganed Messner yn Villnöß-Funes yn Ne Tirol yn yr Eidal; er ei fod yn Eidalwr, Almaeneg yw ei iaith gyntaf. Ef oedd y person cyntaf i ddringo bob copa dros 8,000 medr. Diweddodd ei ymgais gyntaf ar un o'r copaon hyn mewn trasiedi. Cyrhaeddodd ef a'i frawd Gunther gopa Nanga Parbat, ond lladdwyd Gunther ar y ffordd i lawr. Collodd Reinhold ei hun saith o fodiau ei draed a thri bys.
Gyda Peter Habeler, ef oedd y cyntaf i ddringo Mynydd Everest heb ddefnyddio ocsigen yn 1978, rhywbeth yr oedd llawer o ddringwyr yn ei ystyried yn amhosibl. Yr un flwyddyn dringodd Nanga Parbat ar ei ben ei hun a heb ocsigen. Yn 1980 ef oedd y cyntaf i ddringo Everest ar ei ben ei hun, eto heb ocsigen.
Rhwng 1999 a 2004 bu'n aelod o'r Senedd Ewropeaidd dros Blaid Werdd yr Eidal.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Reinhold Messner, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.