Dinas hynafol a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal, yw Ravenna, sy'n brifddinas talaith Ravenna yn rhanbarth Emilia-Romagna.
Fe'i lleolir ger arfordir Môr Adria. Mae'n borthladd a gystylltir â Môr Adria gan gamlas.
Math | cymuned, dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 155,751 |
Pennaeth llywodraeth | Michele De Pascale |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Apollinaris |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Ravenna |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 653.82 km² |
Uwch y môr | 4 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Argenta, Bagnacavallo, Bertinoro, Cervia, Cesena, Comacchio, Forlì, Russi, Alfonsine, Talaith Forlì-Cesena |
Cyfesurynnau | 44.4161°N 12.2017°E |
Cod post | 48121–48125 |
Pennaeth y Llywodraeth | Michele De Pascale |
Roedd poblogaeth y gymuned yng nghyfrifiad 2011 yn 153,740.
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Ravenna gan y Sabiniaid. Bu'n ddinas o gyfnod yr Umbriaid ymlaen ac mae'n bosibl iddi gael ei gwladychu gan yr Etrwsciaid. Syrthiodd i'r Rhufeiniaid yn yr 2g CC. Cryfhawyd y ddinas gan yr ymerawdwr Augustus, a adeiladwyd camlesi yno a phorthladd milwrol. Roedd yn brifddinas yr Ymerodraeth Rufeinig yn y Gorllewin (402–476), teyrnas yr Ostrogothiaid (476–526) a rhaglawiaeth Fysantaidd Ravenna ar ôl hynny (584–751). Yn 751 cafodd y ddinas ei meddiannu gan y Lombardiaid a daeth yr Oes Aur i ben. Dirywiodd i fod yn dref fechan ddinod yn yr Oesoedd Canol. Yn 1431 fe'i cipiwyd gan Gweriniaeth Fenis. Dim ond ar ôl i'r wlad gael ei huno gan Garibaldi a sefydlu gwladwriaeth fodern yr Eidal y dechreuodd Ravenna adfywio. Erbyn heddiw mae'n ganolfan masnach a diwydiant ac mae'n un o atyniadau twristaidd mwyaf yr Eidal.
Mae'r ddinas yn enwog am yr adeiladau o'r cyfnodau cynnar a'r mosaics sy'n eu haddurno, sy'n cynnwys Mawsolëwm Theodoric, eglwys San Vitale, Mawsolëwm Galla Placida, eglwys Sant'Apollinare in Classe, Palas Theodoric a'r Duomo (eglwys gadeiriol).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ravenna, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.